Gwyddeleg
| Gwyddeleg | ||
|---|---|---|
| Gaeilge | ||
| Siaredir yn | Gweriniaeth Iwerddon (1.66 miliwn)[1] Y Deyrnas Unedig (95,000) America (18,000) Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) |
|
| Rhanbarth | Gaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan | |
| Cyfanswm siaradwyr | 391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2] Mae ychydig o ddealltwriaeth gan ryw 1.66 miliwn[1] (2006 yr Weriniaeth yn unig) |
|
| Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
|
|
| System ysgrifennu | Lladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg) | |
| Statws swyddogol | ||
| Iaith swyddogol yn | ||
| Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | ||
| Rheolir gan | Foras na Gaeilge | |
| Codau ieithoedd | ||
| ISO 639-1 | ga | |
| ISO 639-2 | gle | |
| ISO 639-3 | gle | |
| Wylfa Ieithoedd | – | |
| Nodyn: Efallai bod gan y dudalen hon symbolau ffonetig IPA yn Unicode. | ||
Mae Gwyddeleg (Gwyddeleg: Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goideleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goideleg eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol y Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.
Sefyllfa heddiw[golygu]
Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.
Rhai geiriau Gwyddeleg[golygu]
- Bó - buwch
- Fear / Duine - gŵr / dyn
- Gealach - lleuad (lloer)
- Grian - haul
- Sliabh - mynydd
- Trá - traeth
- Maith - da
- Glan - glân
- Beag - bach
- Mór - mawr
- Leabhar - llyfr
- Gorm - glas
- Glas - gwyrdd
- Dubh - du
- Tine - tân
- Am - amser
- Aimsir - tywydd
Rhai Ymadroddion[golygu]
- Dia Dhuit - sut mae?
- Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut dych chi?
- An-mhaith - da iawn
- Go raibh maith agat - diolch
- Mise freisin - finnau hefyd
- B'fhéidir - efallai
- Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
- Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
- Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
- Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
- Is mise Seán - Seán dw i
- Le do thoil - os gwelwch yn dda
- Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
- Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
- Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
- An dtuigeann tú Gaeilge?" - Ti'n deall Gwyddeleg?
- Tuigim beagán Gaeilge." - Dw i'n deall tipyn bach o Wyddeleg
- Is breá liom.. - Dw i'n hoffi...
- Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
- Tá brón orm - Mae'n ddrwg gen i
- Slán - Hwyl
Cymariaethau â Chymraeg[golygu]
Y Rhifau
| Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Rhagenwau
| Cymraeg | fi/i | ti | fo/o | hi | ni | chi | nhw |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | mé | tú | sé / é | sí / í | sinn | sibh | iad |
Meddiant
| Cymraeg | fy nhŷ | dy dŷ | ei dŷ | ei thŷ | ein tŷ | eich tŷ | eu tŷ |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | mo theach | do theach | a theach | a teach | ár dteach | bhur dteach | a dteach |
"Gw" - "F"/"B"
| Cymraeg | dyn (gŵr) | gwyn | gweld | gwell | gwin | gwlyb | gwir | gwan | gwyddbwyll | gwylan |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | fear | bán | feiceáil | fearr | fíon | fliuch | fíor | fann | ficheall | faoileán |
"P"/"B" - "C"
| Cymraeg | beth | pwy | pen | pedwar | pump | plant | mab | Pasg | pawb | coeden ("pren") |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | cad | cé | ceann | ceathair | cúig | clann | mac | an Cháisc | cách | crann |
Geiriau Eraill
| Cymraeg | llachar | golau | haul | halan | haf | hen | hynny | hi | chi | heddiw |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwyddeleg | geal | solas | grian | salann | samhradh | sean | sin | sí | sibh | inniú |
Gweler hefyd[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Beyond2020.cso.ie
- ↑ Ethnologue, Gaelic, Irish: a language of Ireland
Cysylltiadau allanol[golygu]
- Lexicelt: geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg
- Gwefan swyddogol Foras na Gaeilge (Bwrdd yr Iaith Wyddeleg)
- Cymdeithas Cyfieithwyr Gwyddeleg (Cumann Aistritheoirí agus Teangairí na hÉireann)
- Wicitestun Gwyddeleg
- Gwyddeleg ar y rhyngwyd (Gaeilge ar an ghréasán)
- Geiriadur termau Gwyddeleg (Focal.ie)
- Papur newydd wythnosol (Foinse )
- Myfyrwyr Gwyddeleg (Daltaí na Gaeilge)
- Gaelscoileanna - addysg drwy gyfrwng yr Wyddeleg
| Ieithoedd Celtaidd / Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||