Gaeleg yr Alban

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gaeleg)
Gaeleg
Gàidhlig
Siaredir yn  Yr Alban
 Canada
 Unol Daleithiau
 Awstralia
 Seland Newydd
Rhanbarth Yr Alban, Cape Breton, Nova Scotia a Swydd Glengarry, Canada
Cyfanswm siaradwyr 57,602 yn yr Alban.[1]

Mae gan ryw 92,400 o bobl (tair oed a thros) ddealltwriaeth o Aeleg yn 2001[2] gyda rhyw 2,000 yn Nova Scotia.[3] 1,610 o siaradwyr yn yr Unol Daleithiau yn 2000.[4] 822 yn Awstralia yn 2001.[5] 669 yn Seland Newydd yn 2006.

Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Amrywiad ar Aeleg yr Alban)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn  Yr Alban
Rheoleiddir gan Nid oes asiantaeth reoli, ond mae Bòrd na Gàidhlig yn gorff datblygu i'r Aeleg
Codau ieithoedd
ISO 639-1 gd
ISO 639-2 gla
ISO 639-3 gla
Wylfa Ieithoedd 50-AAA
Arwyddon ffyrdd yn Aeleg yr Alban a Saesneg ar bwys Salen

Iaith Geltaidd sy'n frodorol i'r Alban yw Gaeleg neu Gaeleg yr Alban (Gaeleg yr Alban: Gàidhlig [ˈgaːlikʲ]). Mae'n gangen Goedeleg o'r ieithoedd Celtaidd. Datblygodd Gaeleg yr Alban, fel Gwyddeleg a Manaweg, o Wyddeleg Canol, ac felly mae'n tarddu o Hen Wyddeleg.

Nifer y siaradwyr[golygu | golygu cod]

Dangosodd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 58,652 (1.2% o boblogaeth yr Alban, tair oed a throsodd)[6] o bobl yn yr Alban yn medru'r Aeleg i ryw raddau bryd hynny,[2] Ynysoedd Allanol Heledd yw cadarnle'r iaith. Yn ôl y cyfrifiad, bu gostyngiad o 7,300 yn siaradwyr yr Aeleg ers 1991. Mae ymdrechion i wella'r sefyllfa ac mae'r nifer o bobl ifanc sy'n medru'r iaith wedi codi.[7]

Nid yw'r Aeleg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd, nac yn y Deyrnas Unedig ychwaith, lle nad oes iaith swyddogol de jure hyd yn oed. Serch hynny, cydnabyddir yr iaith yn iaith frodorol yn ôl y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol (European Charter for Regional or Minority Languages), sydd wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth y DU.[8] Yn ogystal, mae Deddf Gaeleg (Yr Alban) 2005 yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith, drwy hynny yn sefydlu corff datblygu iaith swyddogol, sef Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd Gaeleg).[9]

Tu allan i'r Alban, mae tafodieithoedd o'r iaith, a elwir yn Gaeleg Canada yn bodoli yng Nghanada ar Ynys Cape Breton ac ardaloedd arunig yn Nova Scotia. Mae gan yr amrywiad yma ryw 2,000 o siaradwyr, sy'n cyfrannu at 1.3% o boblogaeth yr Ynys.[10]

Yn y tabl isod, data'r cyfrifiad yw ffigurau 1755–2001, a ddyfynnir gan MacAuley.[11] Daw ffigurau siaradwyr Gaeleg 2011 o dabl KS206SC Cyfrifiad 2011 a ffigurau'r boblogaeth gyfan o dabl KS101SC. Sylwer mai ffigurau am rai 3 oed a throsodd yw rhai'r siaradwyr a chyfrifir y canrannau gan ddefnyddio'r boblogaeth oed 3 a throsodd.

Siaradwyr Gaeleg yn yr Alban (1755–2011)
Blwyddyn Poblogaeth yr Alban Siaradwyr Gaeleg uniaith Siaradwyr Gaeleg a Saesneg dwyieithog Cyfanswm siaradwyr Gaeleg
1755 1,265,380 289,798 22.9% Anhysbys Anhysbys
1800 1,608,420 297,823 18.5% Anhysbys Anhysbys
1881 3,735,573 231,594 6.1% Anhysbys Anhysbys
1891 4,025,647 43,738 210,677 5.2%
1901 4,472,103 28,106 202,700 4.5%
1911 4,760,904 8,400 183,998 3.9%
1921 4,573,471 9,829 148,950 3.3%
1931 4,588,909 6,716 129,419 2.8%
1951 5,096,415 2,178 93,269 1.8%
1961 5,179,344 974 80,004 1.5%
1971 5,228,965 477 88,415 1.7%
1981 5,035,315 82,620 1.6% 82,620 1.6%
1991 5,083,000 65,978 1.4% 65,978 1.4%
2001 5,062,011 58,652 1.2% 58,652 1.2%
2011 5,295,403 57,602 1.1% 57,602 1.1%

Cyfundrefn enwau[golygu | golygu cod]

Ond am Gaeleg yr Alban, gellir cyfeirio at yr iaith hefyd yn Gaeleg. Yn yr Alban, yngenir y gair Gaelic, wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban yn benodol, yn ˈgalɪk (galyg), ond tu allan i'r Alban, yngenir y gair fel arfer yn ˈɡeɪlɨk (geilyg).

Ni ddylid cymysgu Gaeleg yr Alban gyda Sgoteg, sy'n cyfeirio at fath o'r Saesneg a siaredir yn draddodiadol yn Iseldiroedd yr Alban. Cyn y 15fed canrif, cyfeiriwyd at y math o iaith yma yn Inglis ("Saesneg/English"), a chyfeiriwyd at Aeleg yr Alban yn Scottis ("Gaeleg yr Alban/Scottish"). Ond ers y 15fed canrif hwyr, daeth yn fwyfwy cyffredin i gyfeirio at Aeleg yr Alban yn Erse ("Gwyddeleg/Irish") ac iaith "frodorol" Iseldiroedd yr Alban yn Scottis.[12] Heddiw, cydnabyddir Gaeleg yr Alban yn iaith wahanol i Wyddeleg, felly na ddefnyddir y gair Erse wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban ragor.

Ynganu[golygu | golygu cod]

Mae gan y mwyafrif o dafodieithodd Gaeleg rhwng wyth a naw prif lafariad ([i e ɛ a o ɔ u ɤ ɯ]), a all fod naill ai'n hir neu'n fur. Hefyd, dwy lafariad wannach sydd, ( ɪ]), a fydd yn fyr bob tro. Er bod rhai llafariaid yn drwynol iawn, mae trwynoldeb gwahaniaethol yn brin. Mae rhyw naw deusain ac ambell deirsain.

Mae gan y rhan fwyaf o gytseiniaid ffurfiau daflodol a didaflodi, gan gynnwys system doreithiog o seiniau tawdd, trwynol a chrych (tair sain "l" gyferbyniol, tair "n" gyferbyniol a thair "r" gyferbyniol). Mae'r ffrwydrolion [b ɡ], a fu'n lleisiol, wedi colli eu lleisio felly mae'r cyferbyniad erbyn hyn yn un anadlu, rhwng [p k]dianadl a [pʰ t̪ʰ kʰ] anadlog. Mewn llawer o dafodieithoedd, caiff y ffrwydrolion hyn eu lleisio drwy ynganu eilaidd ar ôl gytsain drwynol, e.e. doras ('drws') [t̪ɔɾəs̪] ond an doras ('y drws') as [ən̪ˠ d̪ɔɾəs̪] neu n̪ˠɔɾəs̪].

Mewn rhai ymadroddion sefydlog, collwyd y ffurfiau cysefin, fel an-dràsta ('nawr') o an tràth-sa "yr amser".

Ynghanol ac ar ddiwedd gair, mae'r ffrwydrolion anadlog yn rhaganadlog yn hytrach nag anadlog.

Gramadeg[golygu | golygu cod]

Mae Llyfr Dèir yn cynnwys y testun Gaeleg hynaf o'r Alban, fel y gwelir ar ymylon y dudalen hon oddi wrth Efengyl Mathew.

Yn debyg i'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae gan Aeleg yr Alban nifer o nodweddion teipolegol diddorol:

  • Berf-goddrych-gwrthrych yw trefn sylfaenol y geiriau mewn brawddeg syml sy'n cynnwys berf gryno, nodwedd deipolegol sy'n eithaf prin ymhlith ieithoedd y byd.
  • Rhedeg arddodiaid: mae'r ffurfiau cymhleth yn tarddu o uniad arddodiad â rhagenw
  • Cystrawennau rhagenwol i ddangos meddiant a pherchnogaeth:
Tha taigh agam — "Mae tŷ gennyf" (sef, "Mae tŷ wrthyf")
Tha an cat sin le Iain - "Mae'r gath honno gan Iain, Iain biau'r gath honno" (sef, "Mae y gath yna gan Iain")
  • Rhagenwau pwysleisiol: Mae modd defnyddio ffurfiau pwysleisiol ymhob cystrawen ragenwol.
Tha cat agadsa ach tha cù agamsa – "Mae cath gennyt ti ond mae ci gennyf i"

Treigladau[golygu | golygu cod]

Rhan allweddol o ramadeg yr Aeleg yw'r treigladau.

Nodir y treiglad meddal drwy ychwanegu h ar ôl llythyren:

  • caileagchaileag "merch", beagbheag "bach", facafhaca "gwelodd", snogshnog "neis"

Nid yw'r orgraff yn dangos treiglad meddal l, n nac r, ac nid yw'n effeithio ar eiriau sy'n dechrau â llafariad nac ar eiriau sy'n dechrau ag sg, sm, sp, nac st.

Ar y llaw arall, mae meinhau neu daflodoli yn newid cytsain ar ddiwedd gair drwy ysgrifennu'r llythyren i o'i blaen, fel arfer:

  • facalfacail "gair", balachbalaich "bachgen", òranòrain "cân", ùrlarùrlair "llawr"

Bydd meinhau yn aml yn newid llafariad sillaf olaf gair hefyd:

  • cailleachcaillich "hen wraig", ceòlciùil "cerddoriaith", fiadhféidh "carw", cascois "troed"

Nid yw meinhau'n effeithio ar eiriau sy'n gorffen â llafariad (e.g. bàta "boat") neu ar gytseiniaid sydd eisoes yn fain (e.g. sràid "street").

Gellir esbonio y rhan fwyaf o achosion o feinhau cytsain yn hanesyddol fel dylanwad taflodol llafariad blaen (megis -i) o flaen y gytsain yng nghyfnodau cynnar yr iaith. Er bod y llafariad hon wedi diflannu erbyn hyn, mae'r effaith ar y gytsain ar ei hôl yn parhau.[13] Yn yr un modd y câi cytsain gychwynnol ei threiglo'n feddal gan lafariad olaf y gair blaenorol, ond nid yw hon yn dal i fod yn yr iaith fodern.[14]

Mae llawer o gytseiniaid ar ddiwedd geiriau wedi diflannu yn natblygiad Gaeleg yr Alban hefyd, ac mae olion y cytseiniaid hyn i'w gweld wrth ychwanegu llythrennau megis n-, h- a t- at eiriau ar ôl y fannod a'r rhagenwau meddiannol,[15] er enghraifft, athair "tad", a h-athair "ei thad", ar n-athair "ein tad", an t-athair "y tad".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Census KS206SC - Language - Scotland
  2. 2.0 2.1 "News Release - Scotland's Census 2001 - Gaelic Report" Archifwyd 2013-05-22 yn y Peiriant Wayback. o wefan General Registrar for Scotland, 10 Hydref 2005. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  3. ""Oifis Iomairtean na Gaidhlig". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-29. Cyrchwyd 2011-04-13.
  4. "Language by State - Scottish Gaelic" Archifwyd 2012-01-11 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Modern Language Association. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  5. "Languages Spoken At Home" o wefan Llywodraeth Awstralia Office of Multicultural Interests. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  6.  Kenneth MacKinnon (2003). Census 2001 Scotland: Gaelic Language – first results.
  7. Macleod, Murray. Mod's fluent youth speaks volumes for Gaelic education (en) , The Scotsman, 17 Hydref 2007.
  8. "List of declarations made with respect to treaty No. 148". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-18. Cyrchwyd 2011-08-23.
  9. Testun swyddogol Deddf Gaeleg yr Alban (Yr Alban) 2005
  10. Gaeleg yr Alban yn Nova Scotia Archifwyd 2008-10-29 yn y Peiriant Wayback., Office of Gaelic Affairs
  11. MacAulay, Donald (1992). The Celtic Languages. Cambridge University Press. t. 141. ISBN 0521231272. – quoting census data. No data recorded for monolingual Gaelic speakers from 1981
  12. Companion to the Oxford English Dictionary, Tom McArthur, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1994
  13. Lewis & Pedersen (1989), §167ff; Calder (1923), §6
  14. Thurneysen (1946), §230ff; Calder (1923), §19
  15. Thurneysen (1946), §§230, 236ff; Calder (1923), §§13, 48

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Wikipedia
Wikipedia
Chwiliwch am Gaeleg yr Alban
yn Wiciadur.
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato