Ynysoedd Allanol Heledd
Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr Alban yw Ynysoedd Allanol Heledd neu Yr Ynys Hir, (Gaeleg Na h-Eileanan Siar, Saesneg Outer Hebrides). Noder fod Na h-Eileanan Siar weithiau yn cael ei ddefnyddio am y cyfan o Ynysoedd Heledd. An Cliseam ar ynys Na Hearadh (Harris) yw copa uchaf yr ynysoedd.
Yr ynysoedd hyn yw cadarnleoedd iaith Gaeleg yr Alban.
Cynnwys |
Tarddiad yr enw [golygu]
Ystyr "heledd" yw "pwll o ddŵr hallt" a cheir y gair "hal" neu "hel" (sef halen) ar ddechrau Hel-edd.[1] Mae'n bosib, hefyd, ei fod yn tarddu o'r gair Gaeleg am "ynys", sef Eilean.
Ynysoedd a'u poblogaeth [golygu]
Yr ynysoedd sydd a phobl yn byw arnynt yw:
| Ynys | Poblogaeth (2001) |
| Leòdhas a Na Hearadh (Lewis a Harris) | 19,918 |
| De Uist | 1,818 |
| Gogledd Uist | 1,271 |
| Benbecula | 1,219 |
| Barraigh | 1,078 |
| Sgalpaigh na Hearadh | 322 |
| Bernera Fawr | 233 |
| Griomasaigh | 201 |
| Beàrnaraigh | 136 |
| Eirisgeidh | 133 |
| Bhatarsaigh | 94 |
| Baile Sear | 49 |
| Grimsay, De-ddwyrain Benbecula | 19 |
| Flodaigh | 11 |
| CYFANSWM (2001) | 26,502 |
Ymhlith yr ynysoedd sydd bellach heb boblogaeth, mae ynysoedd Sant Kilda, y pellaf tua'r gorllewin, sy'n awr yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ [Geiriadur Prifysgol Cymru; Cyfrol ll; tudalen 1843.]
Llyfryddiaeth [golygu]
- Harry Williams, Crwydro'r Ynys Hir (Llyfrau'r Dryw, Llandybie). Cyhoeddwyd fel rhan o'r gyfres boblogaidd 'Crwydro Cymru'.