Sant Kilda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Stryd a thai adfeiliedig ar Hirta.

Mae Sant Kilda (Gaeleg: Hiort) yn gasgliad o ynysoedd yn Ynysoedd Allanol Heledd oddi ar arfordir gogledd-orllewinol yr Alban. Hwy sy'n gorwedd bellaf i'r gorllewin o holl ynysoedd yr Alban. Hirta yw'r ynys fwyaf. Maent yn awr yn eiddo i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban wedi i Ardalydd Bute eu gadael i'r corff yma yn ei ewyllys yn 1956. Nid oes gwybodaeth ar gael am unrhyw sant o'r enw "Kilda", ac mae ansicrwydd am darddiad yr enw.

Yn y cyfnod hanesyddol, ni chredir i'r boblogaeth erioed fod yn fwy na 180. Gadawodd y trigolion olaf yr ynysoedd yn 1930. Mae'r ynysoedd yn nodedig am y nifer fawr o adar y môr sy'n nythu yno, er enghraifft mae tua 40,000 o barau o'r Hugan yn nythu ar ynys Boreray. Pan oedd pobl yn byw ar Sant Kilda, roedd Huganod ieauanc yn rhan bwysig o'u bwyd. Mae ynys Soaigh hefyd yn enwod am ei defaid cynhenid, Defaid Soaigh. Yn 1986 cyhoeddwyd yr ynysoedd yn Safle Treftadaeth y Byd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Baxter, Colin a Crumley, Jim St Kilda: A portrait of Britain's remotest island landscape, Biggar, Colin Baxter Photography, 1988
  • Steel, Tom The Life and Death of St. Kilda, Llundain, Fontana, 1988