Griomasaigh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bagh Mòr ar Griomasaigh, gyda Ronay yn y pellter

Ynys lanw fechan yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Griomasaigh (Saesneg: Grimsay). Hi yw'r fwyaf o nifer o ynysoedd bychain rhwng Uibhist a Tuath a Benbecula, sy'n cario'r cob sy'n cysylltu'r ddwy ynys yma. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 201, yn rhan fwyaf ym mhentrefi Bàgh Mòr a Ceallan, ar ochr ddwyreiniol yr ynys.