Flodaigh
Oddi ar Wicipedia
Crofft ar Flodaigh gyda bryniau Gogledd Uist yn y cefndir.
Un o Ynysoedd Allanol Heledd yw Flodaigh (Gaeleg yr Alban. Cyfeirir ati wrth yr enw Saesneg Flodda weithiau hefyd). Mae'n gorwedd i'r gogledd o Benbecula ac i'r de o Griomasaigh. Mae sarn yn ei chysylltu â Benbecula.
Mae ganddi arwynebedd o 145 hectar a dim ond 11 o bobl sy'n byw yno (2001). Mae'n ynys isel sy'n codi i 20 metr yn unig uwch lefel y môr yn ei man uchaf.