Yr Alban
- Am ystyron eraill, gweler Alban (gwahaniaethu)
|
|||||
| Arwyddair: In My Defens God Me Defend | |||||
| Anthem: Flower of Scotland neu Scots wha hae (answyddogol) | |||||
| Ieithoedd | Saesneg, Gaeleg, Sgoteg | ||||
| Prifddinas | Caeredin | ||||
| Dinas fwyaf | Glaschu/Glasgow | ||||
| Gweinidog Cyntaf | Alex Salmond | ||||
| Arwynebedd | 78,782 km² | ||||
| Poblogaeth Cyfrifiad 2011 Dwysedd |
5,254,800 65.9/km² |
||||
| Arian breiniol | Punt (£) (GBP) | ||||
| Cylchfa amser - Haf: |
UTC UTC +1 |
||||
| Blodyn cenedlaethol | Ysgallen | ||||
| Nawddsant | Sant Andreas | ||||
Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg: Alba, Sgoteg a Saesneg: Scotland). Mae'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi ardderchog.
Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban - y 30ain o Dachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas.
Yr oedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18fed ganrif. Ar y 26ain o Fawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.
Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg - Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 sq mi),[1]. Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec. Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 kilometres (60 mi) - rhwng aber yr Afon Tweed yn y dwyrain hyd at Merin Rheged[2] Saif Iwerddon 30 kilometres (19 mi) i'r gorllewin o benrhyn Kintyre;[3] Norway is 305 kilometres (190 mi) ac Ynysoedd Faroe, 270 kilometres (168 mi) i'r gogledd.
Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambraidd.
Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Hanes [golygu]
Hanes Cynnar [golygu]
Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[4][5]
Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[6]
Diwylliant [golygu]
Awdurdodau unedol [golygu]
Dyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
|
