Gŵyl Ban Geltaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r Ŵyl Ban Geltaidd.

Cynnwys

Cefndir a chystadlaethau [golygu]

Cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd gyntaf ym 1971, ac ers hynny, mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal pob mis Ebrill yn flynyddol mewn amrywiol leoliadau yn yr ardaloedd Gaeltacht yn Iwerddon. Daw cynrychiolwyr o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw i gymeryd rhan yn yr ŵyl a chynhelir sawl cystadleuaeth dros chwe diwrnod gan gynnwys Cân Wreiddiol, Cystadlaethau Canu Côr a Dawns.[1]

Cynrychiolwyr Cymru [golygu]

Enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol. Yng nghystadleuaeth 2011, Cymru ennillodd y wobr am y gân wreiddiol orau.[2]

Cyfeiriadau [golygu]

Dolenni allanol [golygu]