Cunedda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cunedda mab Edern (tua 386 - tua 460; teyrnasai efallai yn y 440au neu'r 450au), a adnabyddir fel rheol fel Cunedda Wledig, oedd sefydlydd Teyrnas Gwynedd.

Ei hanes[golygu]

Credir fod yr enw 'Cunedda' yn dod o'r gair cyfansawdd Brythoneg cunodagos, sy'n golygu "Arglwydd da". Roedd yn fab i Edern ("Eternus" yn Lladin ac wyr i Badarn Beisrudd ("Paternus" yn Lladin) fab Tegid ("Tacitus"). Mae'r enwau yn awgrymu fod dylanwad Rhufeinig cryf ar y teulu, ac mae rhai yn tybio fod "Peisrudd" yn enw ei daid yn cyfeirio at fantell goch neu ysgarlad oedd yn cael ei gwisgo gan uchel-swyddogion yn y fyddin Rufeinig.

Yn ôl y testunau a elwir yn Achau y Saeson, a briodolir i darddiad yn y seithfed ganrif, yr oedd Cunedag yn un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd, a dywedir ei fod wedi dod o Fanaw Gododdin yn yr Hen Ogledd gyda'i wyth mab 140 o flynyddoedd cyn teyrnasiad Maelgwn. Dywedir iddo ef a'i feibion ennill Gwynedd oddi wrth y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno.

Meibion Cunedda[golygu]

Rhoddodd meibion Cunedda eu henwau i nifer o diriogaethau yng ngogledd a gorllewin Cymru, er enghraifft Ceredig a roddodd ei enw i deyrnas Ceredigion, Dogfael a roddodd ei enw i Ddogfeiling yn Nyffryn Clwyd, a Rhufon a roddodd ei enw i deyrnas Rhufoniog. Dywedir i Dybion, mab hynaf Cunedda, farw tra'r oedd y teulu ym Manaw Gododdin, ond rhoddodd ei fab ef, Meirion, ei enw i Feirionnydd. Damcaniaeth arall yw mai penaethiaid yng ngwasanaeth Cunedda oedd y "meibion" hyn.

Dyma restr o'r naw mab:

Ffynonellau[golygu]