Afon Forth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Forth ger Stirling

Afon yn nwyrain yr Alban yw Afon Forth (Saesneg: River Forth, Gaeleg yr Alban: Uisge For neu Abhainn Dhubh). Mae'n 29 milltir o hyd.

Ceir tarddle Afon Forth yn Loch Ard yn y Trossachs, tua 30 km i'r gorllewin o Stirling. Mae'n llifo tua'r dwyrain trwy Aberfoyle ac yna trwy Stirling, lle mae effaith y llanw i'w deimlo, a heibio Cambus, Alloa ac Airth. Wedi cyrraedd Kincardine, mae'n ymledu i ffurfio Moryd Forth.