Glasgow
Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Gaeleg Glaschu, Sgoteg Glesga). Mae Glasgow yn drydedd ddinas Prydain o ran maint. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas.
Credir bod yr enw, fel llawer o enwau lleoedd iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - 'glas' 'cau'. Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn.
Daeth Glasgow yn brif ganolfan yn y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Roedd 585,090 o bobl yn byw o fewn terfynau Dinas Glasgow yn ôl Cyfrifiad 2001, a 1,168,270 gan gynnwys yr ardaloedd trefol o amgylch y ddinas.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Hunterian
- Amgueddfa Kelvingrove
- Clyde Arc
- Croes y marchnad
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Brenhinol
- Tolbooth
[golygu] Enwogion
- Nigel Tranter (1909-2000), nofelydd
- Stanley Baxter (g. 1926), comediwr ac actor
- Winnie Ewing (g. 1929), gwleidydd
- Donald Dewar (1937-2000), gwleidydd
- Billy Connolly (g. 1942), comediwr ac actor
- John Barrowman (g. 1967), actor a chanwr