Rhydychen

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys y brifysgol

Dinas yn Lloegr yw Rhydychen (Saesneg Oxford). Hi yw tref sirol Swydd Rydychen. Yng nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 134,248.

Mae hi ar ledred 51°45'07" i'r gogledd a hydred 1°15'28" i'r gorllewin, sy tua 60 milltir i'r gorllewin (neu ogledd-orllewin) o Lundain. Llifa'r afon Cherwell a'r afon Tafwys drwy ganol Rhydychen gan gyfarfod i'r de o ganol y ddinas. Am tua 10 milltir (16 km) yn ardal Rhydychen, gelwir yr afon Tafwys yn Yr Isis.

Mae gan y dref ddwy brifysgol. Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn Lloegr; ymhlith y Cymry fu yno oedd Owain Glyndŵr ac Owen M Edwards. Mae Prifysgol Brookes (Oxford Polytechnic yn gynt) yna hefyd. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig i'r economi lleol — cynhyrchir y BMW Mini yn Cowley yn nwyrain y ddinas — ond lleihawyd y cynnyrch ers y 1970au.

Mae hanes Rhydychen yn estyn yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid. Cafodd John, brenin Lloegr, ei eni yn Rhydychen. Defnyddiodd Brenin Siarl I Rydychen fel ei lys yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Mae'r adeiladau yn Rhydychen yn adlewyrchu pob cyfnod pensaernïol yn hanes Lloegr ers dyfodiad y Sacsoniaid, gan gynnwys y Radcliffe Camera o ganol y 18fed ganrif. Mae adeilad hynaf y dref, sef eglwys Mihangel Sant, yn dyddio o 1040. Caiff Rhydychen ei hadnabod fel y "city of dreaming spires", term a fathwyd gan y bardd Matthew Arnold i ddisgrifio pensaernïaeth adeiladau prifysgol Rhydychen.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

[golygu] Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol