Birmingham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Birmingham
Birmingham Skyline from Bartley Green.jpg
EnglandBirmingham.svg
Lleoliad o fewn Lloegr
Gwlad Lloegr
Ardal Canolbarth Lloegr
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Bwrdeisdref metropolitanaidd
Maer Chauhdry Abdul Rashid
Pencadlys Cyngor Dinas Birmingham
Daearyddiaeth
Arwynebedd 267.77 km²
Uchder 459 troedfedd (140 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1,010,200 (Cyfrifiad 2005)
Dwysedd Poblogaeth 3,739 /km2
Metro 2,284,093
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser GMT (UTC+0)
Cod Post B
Gwefan www.birmingham.gov.uk

Dinas fawr a bwrdeisdref fetropolitan yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yw Birmingham, a ddatblygodd yn y Chwyldro Diwydiannol, ond sydd â'i gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Rhoddwyd statws dinesig swyddogol iddi yn 1889. Gyda phoblogaeth o dros un miliwn, Birmingham yw dinas ail fwyaf y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain, ac mae hi'n ffurfio rhan sylweddol o ardal ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr, sydd â chyfanswm o 2,284,093 o bobl yn byw yno [1] ac chynhwysa nifer o drefi a dinasoedd cyfagos megis Solihull, Wolverhampton a threfi'r Black Country. Ceir nifer o barciau a chamlesi yn y ddinas. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hi oedd y ddinas Seisnig a effeithwyd yn fwyaf gan yr ymgyrch bomio Almeinig.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y ddinas yn ganolbwynt y chwyldro yn Lloegr, ac o ganlyniad gelwir Birmingham yn "weithdy'r byd" a "dinas o fil o grefftau".[2] Er i bwysigrwydd Birmingham fel dinas ddiwydiannol leihau, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan fasnachol genedlaethol, ac fe'i henwyd yr ail le gorau yn yr Deyrnas Unedig i leoli busnes a'r 14eg yn Ewrop gan Cushman & Wakefield yn 2009.[3] Hyhi yw'r ddinas bedwaredd fwyaf o ran y nifer o ymwelwyr o dramor sy'n mynd yno hefyd.[4]

Yn 2007, rhoddwyd Birmingham yn ddinas 55ed hawsaf i fyw ynddi yn y byd a'r ail ddinas hawsaf i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Rhestr Mercer o safonau byw rhyngwladol.[5] Mae gan Birmingham yr economi dinesig ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, a chyrhaeddodd rif 72nd yn y byd yn 2008.[6]

Gelwir pobl o Birmingham yn 'Brummies', term sy'n tarddu o ffugenw'r ddinas - 'Brum'. Daw hyn o enw tafodieithol y ddinas, Brummagem,[7] a allai fod wedi dod o un o enwau blaenorol y ddinas, 'Bromwicham'. Mae yna dafodiaith ac acen Brummie unigryw gan drigolion y ddinas, sy'n wahanol i'r hyn a geir yn y Black Country cyfagos.

[golygu] Enwogion

[golygu] Dolen allanol

[golygu] Cyfeiriadau

  1. [http://www.statistics.gov.uk/statbase/ssdataset.asp?vlnk=8271&More=Y Cyfrifiad 2001. Key Statistics for urban areas. Office for National Statistics. Adalwyd ar 9 Mehefin 2007
  2. [http://icbirmingham.icnetwork.co.uk/mail/news/columnists/goldberg/tm_objectid=16955982&method=full&siteid=50002&headline=decline-of-the-city-of-a-thousand-trades-name_page.html Decline of the city of a thousand trades. Birmingham Mail. 17 Ebrill 2006. Adalwyd ar 2 Awst 2006
  3. Birmingham, biggest mover in European league table, second to London for UK business 6 Hydref 2009. Anna Blackaby
  4. [http://www.statistics.gov.uk/cci/nugget.asp?id=178 National Statistics Online - International Visits. Adalwyd ar 2009-07-19. Cyhoeddwr:ONS
  5. [http://bwnt.businessweek.com/interactive_reports/livable_cities_worldwide/ World's Top 100 Most Livable Cities Bwnt.businessweek.com 1998-03-22. Adalwyd ar 2009-05-30
  6. https://www.ukmediacentre.pwc.com/imagelibrary/detail.asp?MediaDetailsID=1562
  7. Brummagem Worldwidewords.com 13 Rhagfyr 2003. Adalwyd ar 7 Mehefin 2008
Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill