Armagh
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Armagh (gwahaniaethu).
Dinas yn Iwerddon yw Armagh (Gwyddeleg: Ard Mhacha), a leolir yn Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon. Mae'n 'dref sirol' yr hen sir: cafodd statws dinas yn 1994 ac mae'n ganolfan weinyddol Dinas a Dosbarth Armagh. Ystyr yr enw Gwyddeleg yw 'Ucheldir Macha'. Poblogaeth: 54,263 (2001).
Ceir un o safleoedd archaeolegol pwysicaf Iwerddon yn Navan, ger y ddinas. Dyma Eamhain Mhacha, hen brifddinas talaith Wlster, sydd â lle amlwg ym mytholeg, traddodiadau a hanes y wlad.