Navan
Oddi ar Wicipedia
Tref yn Iwerddon yw Navan (Saesneg) neu An Uaimh (Gwyddeleg) sy'n dref sirol Swydd Meath yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir tua 30 milltir i'r gogledd-orllewin o ddinas Dulyn, tua 10 milltir i'r dwyrain o Drogheda.
Llifa Afon Boyne heibio i'r dref, sy'n enwog am ei gae rasio ceffylau dros y clwydi.