Caerliwelydd
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin eithaf Lloegr, 16km o'r ffin a'r Alban, a thref sirol hanesyddol Cumberland yw Caerliwelydd (Saesneg Carlisle, Lladin Luguvalium). Heddiw mae'n rhan o ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd o fewn swydd Cumbria. Hon yw canolfan weinyddol yr ardal a'r swydd. Mae tua 70,000 o bobl yn byw yn y ddinas ei hun, tra bod 100,739 yn byw yn ardal gweinyddol Dinas Caerliwelydd (Cyfrifiad 2001).
[golygu] Hanes
Mae Caerliwelydd yn sefyll ger pen gorllewinol Mur Hadrian. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o adeiladwaith pren tua OC 72 neu 73. Codwyd caer newydd yn ei lle tua OC 105. Yn 165 codwyd caer gerrig yn ei lle. Mae'r enw Rhufeinig Luguvalium yn dynodi "mur neu le Llug" a thybir mai enw duw brodorol yw Llug. Yr enw Cymraeg yw Caerliwelydd, Caer Lliwelydd, a cheir mwy nag un enghraifft o'r enw personol Lliwelydd mewn testunau Hen Gymraeg a Chymraeg Canol (e.e. Llwyddawg fab Lliwelydd yn Englynion y Beddau, Llyfr Du Caerfyrddin).
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Tŷ Tullie
- Castell Caerliwelydd
- Eglwys gadeiriol
[golygu] Enwogion
- Margaret Forster (g. 1938), awdures
- Melvyn Bragg (g. 1939), cyflwynwr ac awdur
- Mike Figgis (g. 1948), cyfarwyddwr ffilm
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcauld |
| Gweler hefyd: | |

