Salford

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Salford.

Dinas yn ardal Manceinion Fwyaf yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Salford. Saif ar dro yn Arfon Irwell, sy'n ffurfio rhan o'r ffin rhwng Salford a dinas Manceinion i'r dwyrain. Dyma ran ganolog bwrdeistref fetropolitaidd Dinas Salford (Saesneg: City of Salford). Daw enw Salford o'r gair Hen Saesneg Sealhford, sy'n golygu "y rhyd (ford) ger y coed helyg (sealh." Poblogaeth: 72,750 (2011).

Yn hanesyddol mae Salford yn rhan o Swydd Gaerhirfryn. Cyn y Chwyldro Diwydiannol roedd Salford yn ganolfan bwysicach o lawer na Manceinion ei hun ond newidiodd y sefyllfa o ddiwedd y 18fed ganrif ac erbyn heddiw Manceinion yw'r ddinas fwyaf o bell ffordd.

Mae Salford yn gartref i sawl sefydliad addysg, yn cynnwys Prifysgol Salford.

Gweler hefyd[golygu]

Dolen allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato