Gogledd-orllewin Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gogledd-orllewin Lloegr
Gogledd-orllewin Lloegr
Lleoliad rhanbarth Gogledd-orllewin Lloegr
Daearyddiaeth
Arwynebedd 14 165 km² (6ed yn Lloegr)
NUTS 1 UKD
Demograffeg
Poblogaeth
— Cyfanswm

Dwysedd

6 853 200 (2006)
(3ydd yn Lloegr)
475/km²
CMC y pen £15 088 (7fed yn Lloegr)
Llywodraeth
Pencadlys Lerpwl / Manceinion
Cynulliad Cynulliad Rhanbarthol Gogledd-orllewin Lloegr
Etholaeth Senedd Ewrop Etholaeth Senedd Ewrop Gogledd-orllewin Lloegr
Gwefan

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gogledd-orllewin Lloegr. Mae ganddo boblogaeth o 6,853,200 (2006) ac mae'n cynnwys pum swydd Lloegr: Cumbria, Swydd Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Mae Gogledd-orllewin Lloegr yn ffinio â Môr Iwerddon i'r gorllewin a'r Pennines i'r dwyrain, ac mae'n ymestyn o Ororau'r Alban yn y gogledd i fynyddoedd Cymru yn y de. Scafell Pike yn Cumbria, sef copa uchaf Lloegr (978m), yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth.

Mae dwy ardal drefol fawr, wedi eu canoli ar ddinasoedd Lerpwl a Manceinion, yn llenwi de'r rhanbarth – dyma'r ardal fwyaf poblog. Mae gogledd y rhanbarth, gan gynnwys gogledd Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, yn wledig gan mwyaf.

Cysylltiadau allanol[golygu]


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato