Dwyrain Canolbarth Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Lleoliad rhanbarth Dwyrain Canolbarth Lloegr
Daearyddiaeth
Arwynebedd 15 627 km² (4ydd yn Lloegr)
NUTS 1 UKF
Demograffeg
Poblogaeth
— Cyfanswm

Dwysedd

4 172 179 (2001)
(8fed yn Lloegr)
267/km²
CMC y pen £15 097 (6ed yn Lloegr)
Llywodraeth
Pencadlys Melton Mowbray
Cynulliad Cynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr
Etholaeth Senedd Ewrop Etholaeth Senedd Ewrop Dwyrain Canolbarth Lloegr
Gwefan

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Dwyrain Canolbarth Lloegr. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o hanner dwyreiniol y rhanbarth traddodiadol a adwaenir fel Canolbarth Lloegr. Yn benodol, mae'n cynnwys Swydd Derby, Swydd Gaerlŷr, Rutland, Swydd Northampton, Swydd Nottingham a'r rhan fwyaf o Swydd Lincoln.

Kinder Scout, yn Ardal y Copaon, Swydd Derby, yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth (636m). Byddai diffiniad llai caeth Dwyrain Canolbarth Lloegr yn cynnwys dinas Peterborough, Burton upon Trent yn Swydd Stafford, Gogledd Swydd Lincoln a Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln.

Gwneir penderfyniadau ynghylch ariannu'r rhanbarth gan Gynulliad Rhanbarthol Dwyrain Canolbarth Lloegr, a leolir ym Melton Mowbray. Nid siambr etholedig yw'r cynulliad, ond cwango.

Cysylltiadau allanol[golygu]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato