Peterborough

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Peterborough
Arms-peterborough.jpg
Dinas Peterborough (awdurdod unedol)
EnglandPeterborough.png
Lleoliad Peterborough
Sir seremonïol Swydd Gaergrawnt
Sir hanesyddol {{{sir_hanesyddol}}}
Daearyddiaeth
Arwynebedd 343.4 km2 km²
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) 156,061
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 159,700
Gwleidyddiaeth
Aelod seneddol Stewart Jackson

Dinas yn nwyrain Lloegr yw Peterborough. Mae'n cael ei gweinyddu bellach fel awdurdod unedol. Yn hanesyddol mae'n rhan o Swydd Northampton, ond mae'n rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt. Saif ar Afon Nene, 119km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain. Mae'r awdurdod unedol yn ffinio â Swydd Northampton, Swydd Lincoln a Swydd Gaergrawnt. Mae 159,700 o drigolion yn byw yn awdurdod unedol Peterborough (amcangyfrif canol 2005) (156,061, Cyfrifiad 2001).

Cynnwys

[golygu] Hanes

Tan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998 roedd yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

[golygu] Pobl o Beterborough

[golygu] Gefeilldrefi

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill