Huntingdon
Cyfesurynnau: 52°20′11″N 0°10′18″W / 52.3364°N 0.1717°W
| Huntingdon | |
|
|
|
| Poblogaeth | 19,830 |
|---|---|
| Swydd | Swydd Caergrawnt |
| Rhanbarth | |
| Gwlad | Lloegr |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | HUNTINGDON |
| Cod deialu | 01480 |
| Yr Heddlu | |
| Tân | |
| Ambiwlans | |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Dwyrain Lloegr |
| Senedd y DU | Huntingdon |
| Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • | |
Tref yn nwyrain Lloegr yw Huntingdon. Yn hanesyddol, tref sirol Swydd Huntingdon oedd hi, ond adeg ail-drefnu llywodraeth leol ym 1965 a 1974, cyfunwyd Swydd Huntingdon, Peterborough a Swydd Gaergrawnt. Maent bellach yn rhan o sir seremonïol Swydd Gaergrawnt. Mae tref Huntingdon yn dal i weithredu fel canolfan weinyddol ardal Swydd Huntingdon gynt. Mae tua 20,000 o bobl yn byw yn y dref. Saif ar Afon Ouse Fawr yn agos i drefi marchnad eraill yr ardal, St Ives a St Neots. Mae Caerdydd 227.2 km i ffwrdd o Huntingdon ac mae Llundain yn 91.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caergrawnt sy'n 26 km i ffwrdd.
Ganwyd Oliver Cromwell yn y dref yn 1599, ac fe'i cynrychiolodd yn Nhŷ'r Cyffredin am ddwy flynedd o 1628 i 1629. Lleolir Amgueddfa Cromwell yn ei hen ysgol ramadeg yng nghanol Huntingdon. Ei thrigolyn enwog arall yw John Major, prif weinidog Prydain o 1990 tan 1997, ac aelod seneddol dros Swydd Huntingdon o 1979 i 1983 a thros Huntingdon o 1983 i 2001.