Stirling
Oddi ar Wicipedia
Castell Stirling o'r de-orllewin
Dinas yn yr Alban yw Stirling (Gaeleg: Sruighlea), prifddinas ardal cyngor Stirling. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 41,243; y ddinas leiaf yn yr Alban.
Saif y ddinas o amgylch Castell Stirling, ar fryn sydd wedi bod o bwysigrwydd strategol ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid. Credir mai Stirling oedd caer Iuddeu neu Urbs Giudi, lle gwarchaewyd ar Oswiu, brenin Northumbria gan Penda, brenin Mercia yn 655.
Stirling oedd y man isaf lle gellid croesi Afon Forth, ac mae ar y ffin rhwng Iseldiroedd ac Ucheldiroedd yr Alban. Ymladdwyd nifer o frwydrau yma, yn cynnwys buddugoliaeth William Wallace dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling a buddugoliaeth Robert Bruce dros fyddin Edward II, brenin Lloegr ym Mrwydr Bannockburn.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Canolfan Thistles
- Castell Stirling
- Cofadeilad Cunninghame Graham
- Eglwys Gadeiriol Dunblane
- Gorsaf Stirling
- Y Raploch
Enwogion [golygu]
- Billy Bremner (1942-1997), chwaraewr pêl-droed
- Willie Carson (g. 1942), joci