William Wallace

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Wallace

Roedd Syr William Wallace (c.1270 - 23 Awst, 1305; Albaneg: Uilleam Uallas) yn ffigwr allweddol yn y gwrthwynebiad Albanaidd i ymgais brenin Lloegr, Edward I, i goncro'r Alban.

Mae ansicrwydd lle ganed Wallace; yn ôl y traddodiad yn Elderslie, gerllaw Paisley. Ymddengys ei fod o deulu o'r boneddigion llai; yn ôl traddodiad roedd yn fab i Sir Malcolm Wallace o Elderslie, ond enwir ei dad fel Alan Wallace hefyd. Awgrymwyd fod y cyfenw "Wallace" yn dynodi fod y teulu yn ddisgynyddion aelodau o un o deyrnasoedd Brythoneg Yr Hen Ogledd.

Pan fu farw Alexander III, brenin yr Alban yn 1286, dechreuodd cyfnod o ansicrwydd yn yr Alban. Ei aeres oedd ei wyres Margaret, nad oedd ond pedair oed ac yn byw yn Norwy. Bu Margaret farw yn 1290 ar ei ffordd i'r Alban o Norwy. Roedd nifer o bobl yn hawlio'r orsedd ar farwolaeth Margaret, a gofynnwyd i Edward I o Loegr farnu rhyngddynt. Dewisodd ef John Balliol, a choronwyd ef yn frenin. Fodd bynnag manteisiodd Edward ar y cyfle i ymosod ar yr Alban. Erbyn Gorffennaf 1296 yr oedd wedi goresgyn y wlad, a gorfododd Balliol i ildio'r goron.

Rywryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu William Heselrig, Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai 1297, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar 11 Medi, 1297, enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Pont Stirling, pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.

Cofgolofn William Wallace yn Stirling

Yn 1298 gorchfygwyd Wallace gan y Saeson ym Mrwydr Falkirk. Llwyddodd Wallace ei hun i ddianc, ond penderfynodd ymddiswyddo fel Gwarcheidwad yr Alban. Ymddengys iddo fynd i Ffrainc tua diwedd 1298 i geisio cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Dychwelodd i'r Alban yn 1303. Yr oedd yr Alban yn llwyr ym meddiant Edward I, a bu'r Saeson yn ymdrechu'n ddyfal i ddal Wallace. Ar 5 Awst 1305 daliwyd ef trwy frad, a throsglwyddodd John de Menteith ef i ddwylo Edward. Aed ag ef i Lundain a'i roi ar brawf am deyrnfradwriaeth. Ateb Wallace oedd na allai fod yn fradwr i Edward, gan na fu Edward erioed yn frenin arno. Cafwyd ef yn euog, ac ar 22 Awst 1305, dienyddiwyd ef yn Smithfield. Chwarterwyd ei gorff a gyrru'r rhannau i'w harddangos yn Newcastle, Berwick, Stirling, ac Aberdeen, tra gosodwyd ei ben ar bicell ar Bont Llundain.