Ely

Oddi ar Wicipedia
Ely
Mathdinas, plwyf sifil gyda statws dinas, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Dwyrain Swydd Gaergrawnt
Poblogaeth20,256 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iRibe Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaergrawnt
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd23 mi² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Great Ouse Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLittle Downham Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3981°N 0.2622°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012829, E04001630 Edit this on Wikidata
Cod OSTL5379 Edit this on Wikidata
Cod postCB6, CB7 Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y ddinas yn Lloegr yw hon. Am yr ardal o'r un enw Saesneg yng Nghaerdydd gweler Trelái.

Dinas a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Ely.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dwyrain Swydd Gaergrawnt. Saif 14 milltir (23 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Caergrawnt a thua 80 milltir (129 km) o ddinas Llundain.

Mae poblogaeth y ddinas yn 20,256 (Cyfrifiad 2011) sy'n ei gwneud yn un o ddinasoedd lleiaf Lloegr.[2][3]

Sefydlodd Æthelthryth (Etheldreda) abaty yn Ely yn 673 OC ac yn 1083 dechreuwyd codi eglwys gadeiriol ar y safle gan y Normaniaid a thyfodd tref ac wedyn dinas o gwmpas yr eglwys. Ailwampiwyd y Gadeirlan yn 1845 a 1870 gan y pensaer George Gilbert Scott.

Amaethyddiaeth ydy asgwrn cefn economi'r ddinas, bellach, ers i'r canlynol ddod i ben: cynaeafu'r pren helyg, magu llysywod, torri mawn a dal adar i'w gwerthu a'u bwyta.

Eglwys Gadeiriol Ely

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Poblogaeth Hanesyddol Ely
Blwyddyn 1801 1811 1821 1831 1841 1851 1861 1871 1881 1891 1901
Poblogaeth 3,948 4,249 5,079 6,189 6,849 7,632 7,982 8,166 8,171 8,017 7,803
Blwyddyn 1911 1921 1931 1941 1951 1961 1971 1981 1991 2001 2011
Poblogaeth 7,917 7,690 8,381 [4] 9,988 9,803 9,966 10,392 11,291 15,102 20,256

Census: 1801–2001[5] 2011[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 6 Gorffennaf 2020
  2. Dalton 2011, t. 503
  3. "Ely Today" (PDF). East Cambridgeshire District Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-01-18. Cyrchwyd 14 October 2011. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. Nid oedd cyfrifiad yn 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd
  5. "Historic Census Population Figures". Cambridgeshire County Council. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol (XLS) ar 2011-06-09. Cyrchwyd 20 Awst 2010. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. "Census 2011: Cambridgeshire & Peterborough". Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-30. Cyrchwyd 3 Ionawr 2011. Check date values in: |accessdate= (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato