Aberdeen
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Swydd Aberdeen.
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg: Obar Dheathain). Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Coleg Marischal
- Eglwys Gadeiriol Sant Machar
- Neuadd cerddoriaeth
- Tolbooth
- Tŷ'r Provost Ross
[golygu] Enwogion
- Mary Garden (1874-1967), cantores
- Denis Law (g. 1940), chwaraewr pêl-droed
- Graeme Garden (g. 1943), comediwr
- Annie Lennox (g. 1954), cantores
- Evelyn Glennie (g. 1965), cerddores