Henffordd
Oddi ar Wicipedia
Mae Henffordd (Saesneg: Hereford) neu Caerffawydd yn ddinas yng nghanolbarth gorllewin Lloegr, ac yn brif dref Swydd Henffordd. Mae hi bron iawn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac mae Afon Gwy yn rhedeg trwyddi. Mae ganddi nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys ei heglwys gadeiriol Gothig.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ymwelodd Gerallt Gymro â Henffordd yn 1188 ar ddiwedd ei daith trwy Gymru.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Henffordd
- Eglwys Gadeiriol Henffordd
Enwogion [golygu]
- Yn ôl traddodiad roedd yr actores Nell Gwyn (1650 - 1687), gordderch Siarl II, brenin Lloegr, yn enedigol o'r dref.
- John Davies o Henffordd (c.1565-1618), bardd
- Frank Oz (g. 1944), pypedwr
- Ellie Goulding (g. 1986), cantores
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- Cyngor Dinas Henffordd (Saesneg)
- Cyngor Swydd Henffordd (Saesneg)
- Y Mappa Mundi, map hen enwog o Henffordd