Dinas Llundain
Oddi ar Wicipedia
Dinas Llundain o fewn Llundain Fawr
Dinas fechan o fewn Llundain yw Dinas Llundain (Saesneg: City of London). Dyma graidd hanesyddol Llundain, sydd wedi cadw ei ffiniau traddodiadol ers yr Oesoedd Canol. Cyfeirir ati fel Y Ddinas, Dinas neu'r Filltir Sgwâr, am fod ganddi arwynebedd o 2.6 km², sef bron milltir sgwâr. Mae'r enwau yma yn gyfystyr â chanolfan cyllidol y Deyrnas Gyfunol.
Yn yr Oesoedd Canol bu'r enw Llundain yn cyfeirio at y Ddinas yn unig, a oedd ar wahân i San Steffan. Cysylltwyd y ddau gan Stryd y Fflyd (fel y'i gelwid o fewn y Ddinas) a droes yn Y Strand tu allan i furiau'r Ddinas.
Y Ddinas yw swydd (neu sir) seremonïol lleiaf Lloegr a'r ddinas lleiaf ym Mhrydain Fawr ar ôl Tyddewi. Sylwer nad yw'r Ddinas yn un o 32 bwrdref Llundain.