Caint

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Caint yn Lloegr

Sir yn Lloegr yw Caint (Saesneg: Kent), yng nghongl dde-ddwyreiniol y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 1,610,400 ac arwynebedd o 3,736 km². Maidstone ydyw prif dref y sir. Mae Caint yn ffinio ar Surrey a Sussex i'r gorllewin, ar Essex i'r gogledd, ar draws Afon Tafwys, ac, mewn ffordd, ar Ffrainc i'r de-ddwyrain drwy Dwnnel y Sianel. Mae gogledd-orllewin y sir wedi'i lyncu o dan faestrefi Llundain.

Y sir hon ydyw'r agosaf at dir mawr Ewrop - dim ond 21 filltir neu 34 km sydd rhwng Dover a Cap Gris-Nez, gogledd Ffrainc.

Mae tarddiad yr enw Caint yn dyddio'n ôl i'r Brythoniaid, o bosib i lwyth y Cantiaci. Awrgrymwyd hefyd bod cysylltiad rhwng 'Caint' a'r gair Cymraeg cantel ('ymyl'), gan ei bod ar 'ymyl' Prydain Fawr. Dyma'r rhan gyntaf o Loegr i gael ei gwladychu gan lwythau Tiwtonaidd y Saeson - yn yr achos yma yr Iwtiaid a greasant deyrnas Seisnig Caint, yng nghanol y bumed ganrif, a barhaodd nes cael ei llyncu gan Wessex. Gelwid Saeson Caint yn 'Cantwara', a Chaergaint oedd eu prifddinas. Er bod enwau Celtaidd yn weddol brin yng Nghaint o'i gymharu ac ardaloedd eraill Lloegr, mae nifer o enwau lleoedd o darddiad Brythoneg[1], er enghraifft Thanet a Dover. Mae rhai haneswyr, megis Myres, wedi gweld parhâd nifer o enwau lleoedd Brythoneg yma fel tystiolaeth i'r boblogaeth frodorol oroesi yma'n well nag mewn ardaloedd eraill de-ddwyrain Lloegr.[2]

Daeth Sant Awstin â Christionogaeth i Gaint yn niwedd y chweched ganrif.

Enw arall a roddir ar Gaint yw'r 'Garden of England' ('Gardd Lloegr') oherwydd ei thraddodiad amaethyddol. Mae hopys, i wneud cwrw, yn gnwd traddodiadol yng Nghaint, ac mae'r odyndai ('oast-houses'), lle sychir yr hopys, yn dal yn nodweddiadol o dirwedd y sir.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jackson, Kenneth. Language and history in early Britain (Caeredin: Edinburgh University Press, 1953), t. 246.
  2. Collingwood, R. G. & Myers, J. N. L. Roman Britain and the English settlements (Rhydychen, 1937), tt. 427-8.

Gweler hefyd[golygu]


Swyddi seremonïol Lloegr Flag of England.svg

Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Berkshire | Bryste | Swydd Buckingham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerwrangon | Caint | Cumbria | Swydd Derby | Dorset | Swydd Durham | Dyfnaint | De Efrog | Gogledd Efrog | Gorllewin Efrog | Essex | Glannau Merswy | Gorllewin y Canolbarth | Gwlad yr Haf | Hampshire | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Swydd Northampton | Northumberland | Swydd Nottingham | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Suffolk | Surrey | Dwyrain Sussex | Gorllewin Sussex | Tyne a Wear | Swydd Warwick | Swydd Wilton | Ynys Wyth |


Flag of Kent.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato