Porthaethwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°14′N 4°10′W / 53.24°N 4.16°W / 53.24; -4.16

Porthaethwy
Menai Bridge High street Jan 2005.jpg
Stryd Fawr Porthaethwy
Porthaethwy is located in Ynys Môn
Porthaethwy

Porthaethwy Ynys Môn
Poblogaeth 13,580 
Sir Ynys Môn
Sir seremonïol Gwynedd
Rhanbarth
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost PORTHAETHWY
Cod deialu 01407
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ynys Môn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn
Hen fwthyn - y tŷ lleiaf yn y Borth

Mae Porthaethwy (neu, fel arfer ar lafar, Y Borth) yn dref ar Afon Menai yn ne Ynys Môn. Mae ganddi boblogaeth o 3850 (Cyfrifiad 2001).

Hanes[golygu]

Daw’r enw o Porth + Daethwy, yr olaf yn enw llwyth Celtaidd lleol (gweler hefyd Dindaethwy, enw'r cwmwd lleol yn yr Oesoedd Canol). Sefydlwyd trigfan yma ers canrifoeddd oherwydd hwn yw pwynt culaf Afon Menai, felly yn le croesi cyfleus. Yn y nawfed ganrif dyma lle daeth Tysilio i fyw fel meudwy ar yr ynys fechan sydd bellach yn dwyn ei enw a sefydlu’r eglwys.

Ffordd Biwmares, Porthaethwy.

Bu fferi yn croesi’r Fenai yma ers canrifoedd: y cofnod cyntaf ohono yn 1292. Parhaodd felly fel un o’r croesfannau pennaf.

Pan agorwyd Pont Y Borth ym 1826, ‘daeth oes i fferi i ben, ond parhaodd cysylltiadau’r Borth a’r môr, gyda masnachwyr yn mewnforio ac allforio, a diwydiant adeiladu llongau lleol. Y llongfasnachwyr pennaf yn y 19eg ganrif oedd teulu Davies o Dreborth.

Ffair y Borth[golygu]

24 Hydref yw diwrnod Ffair y Borth.

Mae’r ffair yn dyddio’n ôl i 1691. Roedd yn ffair geffylau i ddechrau, ac roedd mart prynu a gwerthu anifeiliaid yn rhan annatod o’r ffair hyd at yr 1970au. Bu yn ffair gyflogi hefyd. Roedd yn un o achlysuron mawr y flwyddyn i lawer o werin bobl Môn ac Arfon. Dyma hen bennill amdani:

'Mae Ffair y Borth yn nesu,
Caf deisen wedi ei chrasu,
A chwrw poeth o flaen y tân,
A geneth lân i'w charu.'

(Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 218)

Heddiw, mae’r ffair yn parhau i’w chynnal yn flynyddol, fel ffair bleser yn bennaf, sydd yn ôl traddodiad yn cael ei gynnal ar dir cyffredin sy'n gwasanaethu fel maes parcio gweddill y flwyddyn. Ar Hydref 24, diwrnod y ffair, bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal nifer o stondinau.

Y Borth Heddiw[golygu]

Mae’r dref yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog, ac i ysgol uwchradd fwyaf Ynys Môn, Ysgol David Hughes.

Lleolir rhaglen deledu S4C, Rownd a Rownd yma, a’r dref yn cynnwys siopau ffug sy’n setiau deledu pwrpasol ar gyfer y gyfres. Mae’n gartref i fand pres Porthaethwy.

Aiff Llwybr Arfordirol Ynys Mon drwy'r dref.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Porthaethwy (pob oed) (3,376)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Porthaethwy) (1,790)
  
54.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Porthaethwy) (2114)
  
62.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Porthaethwy) (556)
  
36.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Davies, J. M. (2003) Porthaethwy, yn Nabod Môn, golygyddion Jones a Thomas, Gwasg Carreg Gwalch ISBN 0-86381-832-3

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu]