Sandwich
Tref hanesyddol yng Nghaint, de-ddwyrain Lloegr yw Sandwich. Roedd yn un o'r Cinque Ports ac mae dal nifer o adeiladau canoloesol i'w cael yno. Er porth bwysig oedd hi yn y gorffenol, fe'i leolir dwy filltir oddi wrth y môr erbyn hyn, â'i chanolfan hanesyddol cadwedig[1] Mae Caerdydd 315.5 km i ffwrdd o Sandwich ac mae Llundain yn 104.5 km. Y ddinas agosaf ydy Caergaint sy'n 19 km i ffwrdd.
Gwasanaethir y dref gan orsaf reilffordd Sandwich.
Hanes[golygu]
Cyn i Sandwich ddod yn Cinque Port, roedd tref Sacson hynafol Stonar eisioes wedi ei sefydlu ac wedi ei leoli ar lan cyferbyn a Sandwich ym moryd Wantsum, wrth geg yr Afon Stour. Roedd y dref yn weddol bwysig hyd yr 14eg ganrif. Mae olion caer Rufeinig mawr Richborough gerllaw hefyd.
Ar 21 Mai 1216, glaniodd Tywysog Louis o Ffrainc yn Sandwich er mwyn cefnogi rhyfel y barwniaid yn erbyn John, brenin Lloegr.
Yn 1255, fe lanwyd yr Eliffant caeth cyntaf yn Lloegr, yng nghei Sandwich, anfonwyd fel anrheg gan frenin Ffrainc i Harri III, brenin Lloegr, a cymerwyd yr eliffant oddiyno i sŵ y brenin yn Nhŵr Llundain.[2]
Pedair mlynedd ar ôl heddwch anesmwyth yn Lloegr, ar 28 Awst 1457, roedd y brenin yn llywodraethu teyrnas a oedd yn diflannu, roedd yn barwniaid ffiwdal yn ymddwyn fel arglwyddi yn rheoli'r boblogaeth yng ngogledd a gorllewin y deyrnas. Fe gymerodd y Ffrancod fantais o'r sefyllfa gan anfon mintai ymosod i Caint, a llosgi'r rhanfwyaf o Sandwich. Daeth tua 4,000 o ddynion o Honfleur, odan arweiniaeth Marshal de Breze, i'r lan i anrheithio'r dref, gan lofruddio'r maer yn y broses, sef John Drury. Sefydlwyd traddodiad ers hynnu sy'n dal i barhau, mae maer Sandwich yn gwisgo mantell ddu yn galaru'r digwyddiad.
Yn ddiweddarach, enillodd Sandwich yn sylweddol o'r sgiliau a ddaeth i'r dref gyda'r nifer fawr o anheddwyr Iseldireg, a dderbyniodd yr hawl i anheddu yno gan Elisabeth I, brenhines Lloegr yn 1560. Daeth yr anheddwyr a thechnegau garddio marchnad gyda nhw, ac roeddent yn gyfrifol am dyfy'r seleri cyntaf yn Lloegr. Daeth y ffoaduriaid Huguenot a nifer o dechnegau pensaerniaeth Iseldireg gyda nhw hefyd, ac mae hynnu gymaint yn ran o Gaint heddiw a bythynod to gwellt. Mewnforwyd technegau cynhyrchu sidan yn ogystal, gan wella diwydiant defnydd Caint.
Melinau Gwynt[golygu]
Roedd gan Sandwich oleiaf wyth melin wynt dros y canrifoedd. Mae'r cyfeiriad cynharaf at felin yn dyddio o 1608.[3]
- "White Mill"
White Mill yw'r unig felin sydd wedi goroesi. Adeiladwyd ym 1760, a gweithwyd gan wynt hyd 1929, ac yna gan fodur hyd 1957. Mae wedi cael ei atgyweirio fel amgueddfa werin a threftadaeth erbyn heddiw.
- "Black Mill"
Melin gyrchu a losgwyd i lawr tua 1910.[4].
- Melin Post
Safodd melin post ger y Black Mill, a gweithwyd nhw ar y cyd.[4]
- Melinoedd Millwall
Adnabyddwyd y felin gyrchu ar y Millwall hefyd fel y "Town Mill". Llosgwyd hwnnu i lawr, a gwyddwn yr adeiladwyd melin arall o rhyw fath yn Millwall.[4]
- Melin wynt
Safodd y chweched melin wynt i'r gogledd orllewin o Sandwich, ac i'r gorllewin o'r rheilffordd. Roedd yn ffurfio grŵp o dri melin ynghyd â Black Mill a'r melin post.[4]
- "New Cut"
Nodwyd dau melin wynt yn New Cut, ar foryd y Stour. gan Hasted. Mae'n debygol mai melinau pwmpio oeddent, yn gysylltiedig gyda'r gweithfeydd halen a oedd yno yn yr 18fed ganrif hwyr.[3]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ : "It had just closed up, and now it was preseved, two miles from the sea, in its own rich silt", Paul Theroux, The Kingdom by the Sea, 1983:33.
- ↑ Hidden Kent, Alan Major
- ↑ 3.0 3.1 Jenny West (1973). The Windmills of Kent. Llundain: Charles Skilton Ltd., tud. 68-71. ISBN 284-98534-1
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 William= Coles Finch (1933). Watermills and Windmills. Llundain: C W Daniel Company, tud. 271-72