Seleri
Oddi ar Wicipedia
Math o blanhigyn yn nheulu'r 'Apiaceae' yw'r Seleri (neu Helogan) (Lladin: Apium graveolens; Sa: Celery) a bwyteir ei goesyn a'i wreiddiau (seleriac).
Roedd y Chiniaid y ei ddefnyddio dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Cafodd ei ddisgrifio gan Carolus Linnaeus (Species Plantarum) yn 1753.[2] Ystyr yr enw yw 'gweithredu'n gyflym' a chredir fod hyn yn cyfeirio at ei effaidd meddygol i leddfu poenau'r gwynegon (gweler isod) oherwydd y lefel uchel o sodiwm sydd ynddo.
Aelod arall o'r teulu yw'r Apium bermejoi o ynys Minorca sy'n un o blanhigion prinaf y byd, gyda dim ond tua 60 yn bodoli.
[golygu] Rhinweddau meddygol
Defnyddir had seleri ar ffurf tabledi yn nyddiau'r Rhufeiniaid; sgwennodd Aulus Cornelius Celsus am hyn tua'r flwyddyn 30 AD.[3]
Caiff y seleri ei ddefnyddio ar gyfer mendio'r gwynegon neu gricmala (cryd y cymalau) drwy ei ferwi mewn llaeth neu ei fwyta'n amrwd.[4]
Mae rhai'n ei ddefnyddio fel tonig cyffredinol hefyd. [5]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Saesneg 'The Online Vitamins Guide'
- ↑ Llyfr gan Carolus Linnaeus: 'Species Plantarum'; cyhoeddwyd gan Holmiae. (Laurentii Salvii), 1753.
- ↑ Gwefan saesneg Celsus, de Medicina, Cyfieithiad
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
- ↑ Gwefan Saesneg 'The Online Vitamins Guide'