Wessex

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o brif deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, yn ne Lloegr, oedd Wessex. Teyrnas y Sacsoniaid Gorllewinol oedd Wessex (West Sax[ons]). Yn y nawfed ganrif unwyd y Lloegr Eingl-Sacsonaidd ganddi. Ei chanolbwynt oedd basn uchaf Afon Tafwys. O'r 6ed ganrif ymlaen ymledodd i'r de-orllewin. Daeth i wrthdrawiad â theyrnas Mercia, teyrnas bennaf Lloegr y pryd hynny, a bu brwydro am oruchafiaeth rhyngddynt tan 825 pan lwyddodd Egbert, brenin Wessex (802 - 839) i osod ei awdurdod ar Fercia. Ar sail y goruchafiaeth hynny unodd Alffred Fawr (849 - 899) Loegr (ac eithrio tiriogaeth y Daniaid yn nwyrain Lloegr, sef y Danelaw).

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Wessex[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato