Alffred Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Alffred Fawr (cerflun yn Winchester)

Roedd Alffred Fawr (Ælfred neu Alfred, o Hen Saesneg: Ælfrēd) (c. 84926 Hydref 899) yn frenin ar y deyrnas Eingl-Sacsonaidd ddeheuol Wessex o 871 hyd 899. Mae Alffred yn enwog am amddiffyn Lloegr yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Cofnodir manylion ei fywyd gan yr ysgolhaig Cymreig cynnar Asser.

Cynnwys

[golygu] Bywyd Cynnar

Cafodd Alffred ei eni rhwng 847 ac 849 O.C. yn Wantage. Roedd e’n fab i bumed Brenin Wessex, Ethelwulf, a’i wraig cyntaf, Osburga. Maen nhw’n dweud yr aeth Alffred i Rufain pan oedd yn bump oed, ac wedi ymweld â Siarl, Brenin Ffrainc, gyda’i dad rhwng 854-855. Bu farw Ethelwulf yn 858, a chafodd Wessex ei reoli gan dri brawd Alffred, un ar ôl y llall. Am flynyddoedd, talent yn ddrud i'r Daniaid i adael ei bobl yn llonydd, ond yn 870 glaniodd llu enfawr ohonynt a chafwyd blynyddoedd o frwydro. Cofnodir i o leiaf 9 brwydr ddigwydd, gydag Alffred yn trechu ar 5 Ionawr, 871 gerllaw Reading a phum diwrnod wedyn ym Mrwydr Ashdown (Berkshire) ond ar 22 Mawrth ym Mrwydr Merton yn Wiltchire, lladdwyd ei frawd Ethelred.

[golygu] Brenin Wessex

Coronwyd Alffred yn frenin Wessex ac aeth ati i geisio heddwch.

[golygu] Cofiant

Ysgrifennodd yr esgob Asser y Vita Ælfredi regis Angul Saxonum yn 893.

[golygu] Gweithiau am Alfred

Mae opera enwog gan Thomas Arne am Alfred sy'n cynnwys y gân Rule Britannia fel ffinale. Ymgais bwriadol i asio hanes brenin Lloegr gyda'r enw Prydain.

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill