Surrey
![]() |
|
| Dosbarthau | |
|---|---|
![]() |
Sir yn ne-ddwyrain Lloegr yw Surrey. Mae'n un o'r Siroedd Cartref ac yn ffinio â siroedd Llundain Fawr, Kent, Dwyrain Sussex, Gorllewin Sussex, Hampshire, Swydd Buckingham a Berkshire. Y dref sirol hanesyddol yw Guildford, ond mae pencadlys Cyngor Sir Surrey yn nhref Kingston upon Thames sydd bellach yn rhan o Lundain Fawr. Mae ganddi boblogaeth o tua 1.1 miliwn (amcangyfrif 2008).
Rhennir Surrey i 11 o fwrdeistrefi ac ardaloedd: Spelthorne, Runnymede, Surrey Heath, Woking, Elmbridge, Guildford, Waverley, Mole Valley, Epsom a Ewell, Reigate a Banstead a Tandridge. Wedi etholiadau lleol Mai 2008, y Ceidwadwyr sydd yn rheoli 10 allan o 11 o gynhorau Surrey. Y Ceidwadwyr sydd hefyd mewn pŵer ym mhob un o'r 11 o etholaethau seneddol Surrey.
Trefi pwysig [golygu]
Guildford yw tref fwyaf Surrey gyda phoblogaeth o 66,773; Woking yw'r ail gyda phoblogaeth o 62,796. Y trydydd dref fwyaf yw Ewell gyda 39,994 o bobl a'r pedwerydd yw Camberley gyda 30,155 o bobl. Trefi gyda poblogaeth rhwng 25,000 a 30,000 ydy Ashford, Epsom, Farnham, Staines a Redhill.
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Saesneg) Cyngor Sir Surrey

