Bryste

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Bryste
Bristol city coa.png
Dinas Bryste (sir, dinas ac awdurdod unedol)
EnglandBristol.png
Lleoliad Bryste
Sir seremonïol Bryste
Sir hanesyddol Sir Gaerloyw (a rhan yng Ngwlad yr Haf)
Daearyddiaeth
Arwynebedd 343.4 km2 km²
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) 380,615
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 398,300
Gwleidyddiaeth
Aelod seneddol Roger Berry
Kerry McCarthy
Doug Naysmith
Dawn Primarolo
Stephen Williams

Mae Bryste (Saesneg: Bristol) yn ddinas yng ngorllewin Lloegr, yn agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren; mae 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor yn Gymraeg yn y 18fed a'r 19eg ganrifoedd. Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad. Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, ac Afon Avon yn eu rhannu.

Yn y 18fed ganrif roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.

Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

  • Castell Bryste
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys y Teml
  • Neuadd Colston
  • Theatr Old Vic
  • Tŵr Colston

[golygu] Enwogion

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Swyddi seremonïol Lloegr Flag of England.svg

Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Berkshire | Bryste | Swydd Buckingham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerwrangon | Caint | Cumbria | Swydd Derby | Dorset | Dyfnaint | Swydd Durham | De Efrog | Gogledd Efrog | Gorllewin Efrog | Essex | Glannau Merswy | Gorllewin y Canolbarth | Gwlad yr Haf | Hampshire | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Swydd Northampton | Northumberland | Swydd Nottingham | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Suffolk | Surrey | Dwyrain Sussex | Gorllewin Sussex | Tyne a Wear | Swydd Warwick | Swydd Wilton | Ynys Wyth |