Swydd Durham
Sir yng ngogledd Lloegr yw Swydd Durham (neu Caerweir) (Saesneg: Durham neu County Durham). Ei chanolfan weinyddol yw Durham. Mae trefi pwysig eraill yn y swydd yn cynnwys Consett, Stanley, Chester-le-Street, Bishop Auckland (Auclud-yr-Esgob), Barnard Castle, Crook ac Easington. Yn y gorffennol roedd Gateshead, Sunderland, De Tyneside, Darlington, Stockton a Hartlepool yn ffurfio rhannau o'r swydd. Mae'r dir yn ffinio â Chumbria, Northumberland a Gogledd Swydd Efrog.
Durham yw sedd trydydd brifysgol Lloegr ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae Swydd Durham yn rhan o Esgobaeth Gatholig Hexham a Newcastle, ac Esgobaeth Anglicanaidd Durham. Heddlu'r swydd yw Heddlu Caerweir gyda phencadlys yn Aykley Heads ar bwys Durham.
Dosbarthau
- Swydd Durham (unedol)
- Hartlepool (unedol)
- Darlington (unedol)
- Stockton-on-Tees (unedol)
| Swyddi seremonïol Lloegr | |
|
Swydd Amwythig | Swydd Bedford | Berkshire | Bryste | Swydd Buckingham | Swydd Gaer | Swydd Gaergrawnt | Swydd Gaerhirfryn | Swydd Gaerloyw | Swydd Gaerlŷr | Swydd Gaerwrangon | Caint | Cumbria | Swydd Derby | Dorset | Swydd Durham | Dyfnaint | De Efrog | Gogledd Efrog | Gorllewin Efrog | Essex | Glannau Merswy | Gorllewin y Canolbarth | Gwlad yr Haf | Hampshire | Swydd Henffordd | Swydd Hertford | Swydd Lincoln | Llundain Fwyaf | Manceinion Fwyaf | Middlesex | Norfolk | Swydd Northampton | Northumberland | Swydd Nottingham | Riding Dwyreiniol Efrog | Rutland | Swydd Rydychen | Swydd Stafford | Suffolk | Surrey | Dwyrain Sussex | Gorllewin Sussex | Tyne a Wear | Swydd Warwick | Swydd Wilton | Ynys Wyth | |
