Cernyw
Oddi ar Wicipedia
Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain. Yn weinyddol fe'i trinir fel un o siroedd Lloegr. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw.
Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r sir yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd na unrhyw le arall ym Mhrydain, ac am ei fod yn lle dda i syrffio.
Mae Cernyw yn enwog am ei phasteiod a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.
Cynhelir Gorseth Kernow (Gorsedd Cernyw) yn flynyddol i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.
Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Pentir sylweddol ym mhen de-orllewinol eithaf Prydain Fawr sy'n ymestyn allan i'r Cefnfor Iwerydd rhwng y Môr Celtaidd i'r gogledd a'r Môr Udd i'r de yw Cernyw. Penrhyn Land's End yw pwynt mwyaf deheuol Cernyw a Phrydain (John o Groats yn yr Alban yw pwynt mwyaf gogleddol yr ynys). Nodweddir yr arfordir gan nifer o faeau creigiog a thraethau braf. Mae arfordir y gogledd yn llawer mwy ysgythrog a chreigiog nag arfordir y de, lle ceir baeau mawr agored.
Creigiau Hen Dywodfaen Coch a Defonaidd sy'n nodweddi daeareg solid yr ardal; mae'r creigiau hyn yn torri trwodd yn fryniau isel yma ac acw, yn enwedig ger yr arfordir ac ar Waun Bodmin, lle ceir Bron Wennyly (Brown Willy, 419m), pwynt uchaf Cernyw.
[golygu] Hanes
[golygu] Yr iaith Gernyweg heddiw
Mae tua mil o bobl yn siarad fersiynau cyfoes o'r iaith Gernyweg. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio Kernewek Kemmyn, sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Gernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig. Hefyd mae defnyddwyr Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig) a Kernewek Unyes Amendys (CU adolygedig) gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni. Gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18fed ganrifoedd.
Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r 19eg ganrif. Gwnaeth yr iaith oroesi ar dafodau pysgotwyr i ryw raddau hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ni wnaed yr ymchwil angenrheidiol ar y pryd). Mae peth adferiad yn digwydd nawr. O'r chwe iaith Geltaidd, Cernyweg ydyw'r debycaf i'r Gymraeg, er iddi serch hynny fod yn nes at y Llydaweg mewn rhai pethau.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Cyngor Cernyw
![]() |
Gwledydd Celtaidd | |
|---|---|---|
|
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |

