Mebyon Kernow

Oddi ar Wicipedia
Mebyon Kernow
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegCornish nationalism, democratiaeth gymdeithasol, Amgylcheddaeth, regionalism, progressivism, pro-Europeanism Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Ionawr 1951 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCynghrair Rhydd Ewrop Edit this on Wikidata
PencadlysSt Columb Major Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mebyonkernow.org/ Edit this on Wikidata
Logo Mebyon Kernow ar eu gwefan.

Plaid wleidyddol chwith-o'r-canol ydy Mebyon Kernow (sef y gair Cernyweg am Feibion Cernyw neu'r MK), sy'n blaid weithredol yng Nghernyw, gwledydd Prydain.

Prif amcanion MK ydyw sefydlu graddfa o hunan-lywodraeth i Gernyw drwy sefydlu Cynulliad i Gernyw drwy ddeddfwriaeth. Hyd yma nid oes ganddynt aelod etholedig yn San Steffan, ac nid ydynt yn cael ec gynrychioli yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ym Mehefin 2009 etholwyd tri o'u haelodau yn gynghorwyr.[1]

Hanes ac Amcanion[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd MK ar 6 Ionawr 1951 mewn cyfarfod yn Redruth. Etholwyd Helena Charles yn gadeirydd cyntaf y blaid. Yn y cyfarfod cyntaf, derbyniwyd yr amcanion canlynol:

  1. Archwilio cyflwr y wlad gan weithredu drosti i ddad-wneud unrhyw ragfarnau, er mwyn Cernyw, drwy newid safbwyntiau pobl Cernyw, neu drwy unrhyw ddull arall.
  2. I feithrin y Gernyweg a llenyddiaeth Gernyweg.
  3. I hyrwyddo'r astudiaeth o hanes Cernyw, o safbwynt pobl Cernyw.
  4. Addysgu pobl i'w gweld eu hunain fel un o'r chwe gwlad Geltaidd.
  5. I gyhoeddi pamffledi, papurau, erthyglau a llythyrau yn y wasg pan fo hynny'n bosibl.
  6. I drefnu cyngherddau a digwyddiadau i'w cynnal gyda blas Cernyw-Geltaidd arnynt, er mwyn hybu'r amcanion hyn.
  7. I gydweithio gyda chymdeithasau sy'n ymwneud â chadw cymeriad Cernyw.

Arweinwyr y blaid[golygu | golygu cod]

  • 1951 Helena Charles
  • 1959 Major Cecil Beer
  • 1970 Len Truran
  • 1973 Richard Jenkin
  • 1991 Loveday Jenkin
  • 1997 Dick Cole

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]