Cernyweg
Oddi ar Wicipedia
| Cernyweg (Kernewek) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | DU |
| Parth: | Cernyw |
| Siaradwyr iaith gyntaf: | Bu farw yn 1777 fel iaith ar lafar ond ar ôl adfywiad yn 1904 mae yna tua 2,000 o siaradwyr rhugl. |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | Dim yn y 100 uchaf |
| Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeg Celteg |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Dim |
| Rheolir gan: | Dim |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | kw |
| ISO 639-2 | cor |
| ISO 639-3 | cor |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.
Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r Rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Mae'r Gernyweg yn hanu o iaith Brythoniaid de-orllewin Prydain, a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deorham, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 810, pan goncrwyd Dyfnaint gan y Sacsoniaid gan adael Cernyw yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua 920, ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn Lloegr, ac Athelstan a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad Saesneg! - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676. Canrif yn ddiweddarach (1776), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk (Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwsio Cernyweg ar hyn o bryd -- hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc).
[golygu] Adfywiad
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek - Cymdeithas yr Iaith Gernyweg, i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith adfywiedig, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Geryweg, a'i haelodau yn furfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).
Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9fed ganrif. [1] Ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.
Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio 'Kernewek Kemmyn', sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.
Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig), y ffurf a ddyfeiswyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan Agan Tavas.
Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.
Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ('Unified Cornish Revised'), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.
Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18fed ganrifoedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga (Cernyweg Modern) gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.
Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.
Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig.
[golygu] Esiamplau
Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn Kernewek Kemmyn ac UCR) gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg, a Saesneg.
| Cernyweg (UCR) | Cernyweg (KK) | Cymraeg | Llydaweg | Saesneg |
|---|---|---|---|---|
| Kernowek | Kernewek | Cernyweg | Kerneveureg | Cornish |
| gwenenen | gwenenenn | gwenynen | gwenanenn | bee |
| chayr, cadar | kador | cadair | kador | chair |
| cues | keus | caws | keuz | cheese |
| yn mes | yn-mes | i maes | er-maez | out |
| codha | koedha | cwympo | kouezhañ | (to) fall |
| gavar | gaver | gafr | gavr | goat |
| chy | chi | tŷ | ti | house |
| gweus | gweus | gwefus | gweuz | lip |
| aber | aber | aber, genau | aber | mouth (river) |
| nyver | niver | rhif, nifer | niver | number |
| peren | perenn | gellygen | perenn | pear |
| scol | skol | ysgol | skol | school |
| megy | megi | mygu | mogediñ | (to) smoke |
| steren | sterenn | seren | steredenn | star |
| hedhyw | hedhyw | heddiw | hiziv | today |
| whybana | hwibana | chwibanu | c'hwibanat | (to) whistle |
Beth yw'r gair am....
Bore da - Myttin da
P'nawn da - Dohajydh da
Noswaith dda - Gorthugher da
Nos da - Nos da
Sut yda chi? - Fatla genes?
Iawn diolch - Yn poynt da, meur ras
Diolch - Meur ras tejy
Os gwelwch yn dda - Mar pleg
Iawn boi? - Hou sos?
Pwy dych chi? - Piw osta?
Allan ydw i - Allan ov vy
Sut wyt ti? - Fatla genes?
yn da iawn rydw i diolch, a ti? - Yn poynt da ov vy meur rasta, ha ty?
[golygu] Nodiadau
- ↑ Copi o De Consolatione Philosophiae gan Boethius yw'r llawysgrif. Mae'r nodyn Cernyweg ud rochashaas i'w weld uwchben y Lladin y mae'n ei gyfieithu. Gweler:
- Oxford scholars detect earliest record of Cornish website a
- Sims-Williams, P. 'A New Brittonic Gloss on Boethius: ud rocashaas', Cambrian Medieval Celtic Studies 50 (Winter 2005), 77-86.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Cymdeithas yr Iaith Gernyweg (Cernyweg/Saesneg).
- Kernewek dre Lyther (Cwrs Cernyweg drwy'r We)
- Bwrdd yr Iaith Gernyweg (yn Saesneg)
- Cyfieithiad o'r Beibl yn Gernyweg
- Geiriadur ar lein
- Newyddion yn Gernyweg (o'r BBC)
- Newyddion yn Gernyweg
- Testunau Hanesyddol
| Ieithoedd Celtaidd / Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||

