Ieithoedd Celtaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Celteg
Dosraniad
daearyddol:
Siaradont hwy'n eang ar draws Ewrop, ond heddiw yn Ynysoedd Prydain, Llydaw, Patagonia a Nova Scotia
Dosraniad Ieithyddol: Indo-Ewropeaidd
 Celteg
Israniadau:
ISO 639-2 a 639-5: cel

Tarddodd yr ieithoedd Celtaidd gyda Phroto-Celteg, neu "Gelteg Gyffredin"; cangen o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Defnyddiwyd y term "Celteg" gyntaf i ddisgrifio'r grŵp o ieithoedd hwn gan Edward Lhuyd ym 1707.[1]

Siaredir yr ieithoedd Celtaidd ar draws ymylon gorllewin Ewrop yng Nghymru, Yr Alban, Iwerddon, ar draws yr orynys o Lydaw yn Ffrainc, Cernyw, ac Ynys Manaw, ac fe'u darganfyddir ar draws Ynys Cape Breton (Canada) ac ym Mhatagonia (yr Ariannin a Chile). Gellir eu darganfod hefyd mewn ardaloedd a oedd â blas Celtaidd yn yr Unol Daleithiau,[2] Canada, Awstralia,[3] a Seland Newydd.[4] Yn yr ardaloedd hyn i gyd, y lleiafrif ydyw'r ieithoedd Celtaidd ond mae ceisiadau i'w hadfywio.

Yn ystod y mileniwm 1af CCC, siaradont ar draws Ewrop, o Fae Biskaia a Môr y Gogledd, ar draws Afon Rhein ac ar draws Afon Donaw hyd at y Môr Du a'r Balcanau, ac yn Asia Leiaf (Galatia). Aeth Gaeleg yr Alban i Ynys Cape Breton a'r Gymraeg i Batagonia yn ystod y cyfnodau modern.

Cynnwys

[golygu] Tafodieithoedd byw

Rhestra Ethnologue chwe iaith Geltaidd "byw", lle mae pedair ohonynt wedi dal gafael ar nifer sylweddol o siaradwyr brodorol. Ymhlith y pedair y mae'r Gymraeg a'r Llydaweg, a darddodd o'r Frythoneg, a tharddodd y Wyddeleg a Gaeleg yr Alban o Aeleg cyffredin a elwir yn Wyddeleg Fodern Gynnar (Gwyddeleg Clasurol).

Siaradwyd y ddwy iaith arall, y Gernyweg a'r Fanaweg, hyd at y cyfnodau cynnar ond y buont farw yn iaith gymunedol.[5][6][7] Ond bu mudiadau adfywiol i'r ddwy iaith sydd wedi dilyn i oedolion ddysgu'r iaith a hefyd siaradwyr plant brodorol.[8][9]

Ar y cyfan, yr oedd tua miliwn o siaradwyr brodorol o'r ieithoedd Celtaidd ers y 2000au.[10]

[golygu] Demograffig

Iaith Enw brodorol Dosbarthiad Nifer o siaradwyr brodorol Cyfanswm o siaradwyr Gwlad Corff rheoli
Cymraeg Cymraeg Brythonaidd 450,000+ 750,000+:
Cymru: 611,000[11]
Lloegr: 150,000[12]
Talaith Chubut, yr Ariannin: 5,000 [13]
Baner Cymru Cymru Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Gwyddeleg Gaeilge Goidelaidd Amcangyfrifon o siaradwyr brodorol yn ymestyn o 40,000 hyd at 80,000 o bobl.[14][15][16][17] Yn y Weriniaeth, mae tua 72,000 o bobl yn defnyddio'r Wyddeleg bob dydd tu allan i addysg.[18] Iwerddon (Gweriniaeth) 538,283, Y Deyrnas Unedig 95,000, Unol Daleithiau America 18,000. (Dangosodd Gyfrifiad Iwerddon fod gan 1,738,384 o bobl rhyw ddealltwriaeth o'r iaith[19][20] ond mae llawer yn gwybod ychydig yn unig.)[21] Iwerddon Foras na Gaeilge
Llydaweg Brezhoneg Brythonaidd  ? 200,000 [22] Baner Llydaw Llydaw Ofis ar Brezhoneg
Gaeleg yr Alban Gàidhlig Goidelaidd 58,552 ers 2001[23] yn ogystal â'r amcangyfrif o 400-1000 o siaradwyr brodorol ar Ynys Cape Breton[24][25] 92,400 [26] Baner Yr Alban Yr Alban Bòrd na Gàidhlig
Cernyweg Kernewek Brythonaidd 600 [27] 3,000 [28] Baner Cernyw Cernyw Keskowethyans an Taves Kernewek
Manaweg Gaelg Goidelaidd 100,[29][30] gan gynnwys nifer bychan o blant sydd bellach yn siaradwyr brodorol newydd[31] 1,700 [32] Baner Ynys Manaw Ynys Manaw Coonceil ny Gaelgey

[golygu] Ieithoedd cymysg

[golygu] Celteg Ynysig

Rhennir yr ieithoedd Celtaidd gorllewinol, neu Ynysig, yn ddau deulu neu gangen o Gelteg Ynysig:

[golygu] Goideleg

Mae tair iaith yn deillio o'r Goideleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sef:

[golygu] Brythoneg

Mae tair iaith yn deillio o'r Frythoneg, a elwir weithiau'n Gelteg P, sef:

Gweler hefyd:

  • Cymbreg, tafodiaith gynnar o'r Frythoneg yn ardal Cumbria a'r Hen Ogledd. Mae ei statws ieithyddol - fel iaith neu dafodiaith - yn ddadleuol.

[golygu] Celteg y Cyfandir

Roedd Celteg y Cyfandir neu Gelteg Gyfandirol yn cynnwys sawl iaith a thafodiaith Celteg a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan o Asia Leiaf, yn cynnwys,

[golygu] Rhai Geiriau Celtaidd

Rhifau

Cymraeg un dau tri pedwar pump chwech saith wyth naw deg
Llydaweg unan daou tri pevar pemp c'hwec'h seizh eizh nav dek
Gwyddeleg aon trí ceathair cúig seacht ocht naoi deich
Gaeleg yr Alban aon trì ceithir còig sia seachd ochd naoi deich

Lliwiau

Cymraeg lliw du glas brown gwyrdd llwyd oren coch gwyn melyn
Llydaweg liv du glas gell gwer louet liv-orañjez ruz gwenn melen
Gwyddeleg dath dubh gorm donn uaine, glas liath, glas oráiste, flann-bhui dearg bán buí
Gaeleg yr Alban dath dubh gorm donn uaine glas, liath orains dearg geal buidhe

Anifeiliaid

Cymraeg arth cath buwch ci gafr ceffyl llygoden dafad blaidd pysgodyn
Llydaweg arzh kazh buoc'h ki gavr marc'h logodenn dañvad bleiz pesk
Gwyddeleg béar cat madra, madadh, gadhar, cú gabhar capall, each luch caora mac-tíre iasc
Gaeleg yr Alban mathan cat bò, mart cù, madadh gobhar each luch caora madadh-allaidh iasc

Rhagenwau

Cymraeg fi, i ti fe, e hi ni chi nhw
Llydaweg me te hi ni c'hwi int
Gwyddeleg sé, é sí, í muid, sinn sibh iad
Gaeleg yr Alban mi thu e i sinn sibh iad

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Cunliffe, Barry W. 2003. The Celts: a very short introduction. tud.48
  2. "Language by State - Scottish Gaelic" ar wefan Modern Language Association. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  3. "Languages Spoken At Home" o wefan Llywodraeth Awstralia Office of Multicultural Interests. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  4. Languages Spoken:Total Responses o wefan Statistics New Zealand. Adalwyd 5 Awst 2008
  5. Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 34, 365–366, 529, 973, 1053. URL
  6. (Saesneg) A brief history of the Cornish language. Maga Kernow.
  7. Beresford Ellis, Peter (1990, 1998, 2005). The Story of the Cornish Language (yn en). Tor Mark Press, tud. 20–22. ISBN 0-85025-371-3
  8. Fockle ny ghaa: schoolchildren take charge
  9. 'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC (en) , BBC/British Council website, BBC. Cyrchwyd ar Nodyn:DyddiadFformat.
  10. (Saesneg) Celtic Languages. Ethnologue.
  11.  Cyfrifiad 2001: Prif Ystadegau am y Gymraeg - Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
  12.  United Nations High Commissioner for Refugees. Refworld | World Directory of Minorities and Indigenous Peoples - United Kingdom : Welsh. UNHCR.
  13.  Wales and Argentina. Gwefan Wales.com. Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008).
  14. [1]
  15. Christina Bratt Paulston. Linguistic Minorities in Multilingual Settings: Implications for Language Policies. J. Benjamins Pub. Co, tud. 81. ISBN 1556193475
  16. Pierce, David (2000). Irish Writing in the Twentieth Century. Cork University Press, tud. 1140. ISBN 1859182089
  17. Ó hÉallaithe, Donncha (1999). {{{teitl}}}, Cuisle
  18. http://www.cso.ie/census/census2006results/volume_9/volume_9_press_release.pdf
  19. [2]
  20. language
  21. Colin H. Williams (1991). Linguistic minorities, society, and territory:, tud. 21
  22. Cofnododd Gyfrifiad Ffrainc yn 2001 270,000 o siaradwyr, ond mae dirywiad o tua 10,000 o siaradwyr bob blwyddyn. Mae'r wefan oui au breton yn amcangyfrif bod 200,000 o siaradwyr ers 2008.
  23. UNESCO Atlas of the World's Languages in Danger, 2010
  24. http://www.virtualmuseum.ca/Exhibitions/Festiva1/en/uccb/cont2/index.html
  25. http://www.highlandclearances.info/clearances/postclearances_influenceabroad_canada.htm
  26. BBC News: Mixed report on Gaelic language
  27. Tyfodd tua 600 o blant yn siaradwyr dwyieithog brodorol (amcangyfrif o 2003, Ethnologue).
  28. Tua 2,000 o siaradwyr rhugl.'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC , BBC/British Council website, BBC. Cyrchwyd ar Nodyn:DyddiadFformat.
  29. Anyone here speak Jersey?
  30. Fockle ny ghaa: schoolchildren take charge
  31. Documentation for ISO 639 identifier: glv
  32. 2006 Official Census, Isle of Man
  33.  Shelta. Ethnologue.
  34. Bakker a Grant, Peter a P. (2006). Atlas of Languages of intercultural communication in the Pacific, Asia, and the Americas. "Interethnic Communication in Canada, Alaska, and adjacent areas". Saskatoon, Canada: Gabriel Dumont Institute. ISBN 0920915809URL
  35. ROMLEX: Romani dialects
Ieithoedd Celtaidd / Celteg
Chwe Chenedl Geltaidd syml.png
Brythoneg- (P-Celteg) Goideleg- (Q-Celteg)
Gwenn ha du.svg
Flag of Cornwall.svg
Flag of Wales 2.svg
Flag of Ireland.svg
Flag of the Isle of Man.svg
Flag of Scotland.svg
Llydaweg · Cernyweg · Cymraeg | Gwyddeleg · Manaweg · Gaeleg yr Alban
Ccross.png
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill