Llydaweg
Oddi ar Wicipedia
| Llydaweg (Brezhoneg) | |
|---|---|
| Siaredir yn: | Ffrainc |
| Parth: | Llydaw |
| Siaradwyr iaith gyntaf: | 200,000 - 300,000 |
| Safle yn ôl nifer siaradwyr: | Dim yn y 100 uchaf |
| Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeg Celteg |
| Statws swyddogol | |
| Iaith swyddogol yn: | Dim |
| Rheolir gan: | Dim |
| Codau iaith | |
| ISO 639-1 | br |
| ISO 639-2 | bre |
| ISO 639-3 | bre |
| Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd | |
Mae'r Llydaweg (Brezhoneg yn y Llydaweg), yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith â'r hunaniaeth Lydawaidd.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6ed ganrif. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad Gâl yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodau hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12fed ganrif. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tréguier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa.
[golygu] Orgraff
Mae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821.
Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn ôl y llythyrennau "zh") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih.
[golygu] Llydaweg heddiw
Yn 1999, roedd tua 257 000 o bobl yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Ar waetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70 - 80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan.
[golygu] Statws
Does dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn ôl cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith.
[golygu] Addysg
Rhyw ddeuddeg mil o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat).
[golygu] Darlledu
Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Mae sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg.
[golygu] Brawddegau Cyffredin
- Sut mae - Salud
- Hwyl fawr - Kenavo, kenô
- Diolch - Bennoz Doue(Sef yn lythrennol "Bendith Duw". Nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi.
- Os gwelwch yn dda - Mar plij.
- Iechyd da! - Yec'hed mat !
- Nos da! - Noz vat !
- Sut ydych chi? - Mat an traoù ganeoc'h ?
- Sut wyt ti? - Mat an traoù ganit ?
- Pwy dych chi? - Piv oc'h ?
- ...ydw i - ...on
- Beth ydy dy enw? - Da anv out ?/Da anv eo petra ?
- Fy enw ydy... - ...eo ma anv
- Dwi ddim - N'on ket
- Yn - E/en
[golygu] Llyfryddiaeth
- F. Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Paris, 1952)
- Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967)
- Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd)
[golygu] Dolenni allanol
- Gwefan Ofis ar Brezhoneg (Llydaweg) (Ffrangeg)
| Ieithoedd Celtaidd / Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||