Ofis ar Brezhoneg

Oddi ar Wicipedia
Ofis ar Brezhoneg
Enghraifft o'r canlynolrheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Daeth i ben17 Medi 2010 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Map
OlynyddOfis Publik ar Brezhoneg Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolassociation under the French law of 1901 Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
RhanbarthKaraez-Plougêr Edit this on Wikidata
Cerbyd yn perthyn i'r Ofis ar Brezhoneg

Sefydliad i hybu'r iaith Lydaweg yw Ofis ar Brezhoneg (Ffrangeg: Office de la langue bretonne. Fe'i sefydlwyd ar 1 Mai 1999; mae'n cyfateb yn fras i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Ymhlith ei dyletswyddau, mae casglu gwybodaeth am sefyllfa'r iaith Lydaweg, cynghori cymunedau ar arwyddion dwyieithog ac enwau lleoedd a chynorthwyo cwmniau ac eraill sy'n dymuno defnyddio'r iaith. Mae hefyd yn hybu cyrsiau dysgu Llydaweg i oedolion. Mae wedi datblygu'r cynllun Ya d'ar brezhoneg i hyrwyddo'r iaith o fewn busnesi a chymdeithasau, a hefyd o fewn cynghorau lleol.

Mae'n sefydliad annibynnol sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan y région Bretagne, ac sydd a'i bencadlys yn Carhaix.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]