Ffrangeg
Oddi ar Wicipedia
Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yw iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.
Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.
Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.
Cynnwys |
Ymadroddion cyffredin [golygu]
- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va? : sut mae?
- bonjour! : bore/p'nawn da!
- bonsoir! / bonne soirée! : noswaith dda!
- au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit! : nos da!
- excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch â dweud merci ! nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch je veux bien ! yn hytrach na merci ! neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé(e) : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno â rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Dywediadau [golygu]
- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
Geiriau diddorol [golygu]
- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwybodaeth ar y Ffrangeg oddi ar wefan Ethnologue
- ↑ Francophonie; adalwyd 04/07/2012
- ↑ La langue française dans le monde 2010. La Francophonie; adalwyd 2010-04-14.
Dolenni allanol [golygu]
Argraffiad Ffrangeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd