Landreger
Oddi ar Wicipedia
Cymuned a phorthladd yn departamant Aodoù-an-Arvor yw Landreger (Ffrangeg: Tréguier). Hi oedd prifddinas talaith hanesyddol Bro-Dreger. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 1,763.
Sefydlwyd Landreger gan Sant Tudwal, a dywedir i Sant Briog sefydlu mynachlog yma hefyd. Mae'r eglwys gadeiriol yma yn nodedig am ei thri tŵr. Cyhoeddwyd y C'hatolicon, y geiriadur Ffrangeg / Llydaweg cyntaf, yma yn 1499. Roedd hwn wedi ei ysgrifennu yn 1464 gan Jehan Lagadeuc. Yn 2007, roedd 16% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.