Celteg Ynysig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae ieithoedd Celteg Ynysig yn un o ddwy ganeg yr ieithoedd Celtaidd yn ôl un theori. Y gangen arall yw Celteg y Cyfandir.

Rhennir yr ieithoedd Celteg Ynysig yn ddwy gangen: Goideleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sy'n cynnwys Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg yr Alban, a Brythoneg a elwir weithiau'n Gelteg P, sef Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.

Gelwir hwy yn ieithoedd "Ynysig" gan eu bod, yn ôl y theori yma, wedi datblygu ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, er mai ar y cyfandir y siaredir Llydaweg heddiw. Oherwydd hyn, mae gan yr iethoedd yma berthynas agosach â'i gilydd na chydag ieithoedd cyfandirol, megis Celtibereg a Galeg.

Gellir crynhoi tarddiad yr ieithoedd hyn fel a ganlyn:

Dengys y tabl canlynol datblygiad y Proto-Gelteg */kʷ/ hyd at /p/ yn y Galeg a'r Frythoneg ond i /k/ yn yr ieithoedd Goedeleg (neu ieithoedd Gaeleg).

Proto-Gelteg Galeg Cymraeg Cernyweg Llydaweg Gwyddeleg Gaeleg Manaweg Saesneg er cyferbyniaeth
*kʷennos pennos pen penn penn ceann ceann kione "head"
*kʷetwar- petuarios pedwar peswar pevar ceathair ceithir kiare "four"
*kʷenkʷe pinpetos pump pymp pemp cúig còig queig "five"
*kʷeis pis pwy piw piv cé (older cia) cò/cia quoi "who"
Ieithoedd Celtaidd / Celteg
Chwe Chenedl Geltaidd syml.png
Brythoneg- (P-Celteg) Goideleg- (Q-Celteg)
Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg
Flag of Cornwall.svg
Flag of Wales 2.svg
Flag of Ireland.svg
Flag of the Isle of Mann.svg
Flag of Scotland.svg
Llydaweg · Cernyweg · Cymraeg | Gwyddeleg · Manaweg · Gaeleg yr Alban
Ccross.png
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd