Teledu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teledu 1950au
Teledu 'sinema cartref' 2007

Peiriant telathrebu y gellir edrych a gwrando ar luniau symudol, fideo, raglenni a ffilmiau drwyddo yw teledu. Gall y gair gyfeirio at y "bocs" ei hun neu at y cynnwys, sef y rhaglenni. yn draddodiadol, cânt eu darlledu o drosglwydydd i erial a gysylltwyd i'r teledu (teledu "terrestial"); erbyn 2004 roedd 21.4% o holl gartrefi gwledydd Prydain yn derbyn teledu lloeren. Erbyn 2012, gyda datblygiad technoleg band-llydan, roedd y teledu clyfar yn galluogi cyfuno'r gwe fyd-eang ochr yn ochr â'r rhaglenni traddodiadol hyn.

Hanes teledu[golygu]

Ar ôl datblygiad radio fe weithiodd sawl dyfeisiwr i ddatblygu ffordd o ddarlledu lluniau gyda'r sŵn. Un nodweddiadol ym Mhrydain oedd yr albanwr John Logie Baird. Yn gyffredinol fe gyfrir Philo T Farnsworth o Rigby, Idaho yn yr Unol Daleithiau fel dyfeisydd y system modern o deledu ym 1928. Roedd teledu ar gael i'r cyhoedd o'r tridegau hwyr ymlaen ac mae nawr yn rhan cyffredin o fywydau pobl trwy'r byd, yn arbennig y byd cyntaf.

Dechreuodd teledu darlledu gyda lluniau du a gwyn ond newidwyd i luniau lliw (dechreuodd y newid hwn yn y chwedegau ym Mhrydain). Yn y saithdegau fe ddatblygwyd ffurf masnachol i'r cyhoedd recordio teledu - y recordydd caset fidio (neu VCR yn Saesneg) - a hefyd defnyddiwyd y casetiau hyn i werthu ffilmiau i'r cyhoedd i wylio gartref. Erbyn hyn defnyddir DVDau i wylio ffilmiau a weithiau i'w recordio. Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol, defnyddio Gyrrianau Caled i recordio ffilmiau, a theledu diffiniad uchel (HDTV).

Bathodd Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam y term 'teledu' yn 1953 a hynny ar wahan i'w gilydd.[1]

Agweddau cymdeithasol[golygu]

Mae ymchwilwyr o brifysgol Maryland wedi darganfod bod pobl sy'n gwylio teledu yn fwy anhapus na phobl sy'n darllen ac yn cymdeithasu.[2]

Teledu yn y DU[golygu]

Mae yna ddau fath o orsaf - y rhai 'daearol' a'r rhai 'lloeren'. Mae'r gorsafoedd daearol yn cael eu darlledu ar y ddaear trwy ddefnyddio rhwydwaith o drosglwyddyddion ar fastiau (fel arfer wedi eu lleoli ar fynyddoedd neu dir uchel). Defnyddir dros fil o orsafoedd trosglwyddo drwy'r DU, gyda dros 200 ohonynt yng Nghymru gan gynnwys y prif orsafoedd canlynol:

  • Gwenfo
  • Mynydd Cilfai
  • Carmel
  • Preseli
  • Blaenplwyf
  • Llanddona
  • Moel y Parc

Gellir gwylio'r sianeli teledu daearol yma trwy ddefnyddio erial confensiynol.

I wylio gorsafoedd lloeren rhaid cael disgl lloeren i dderbyn y signalau sy'n cael eu darlledu o glwstwr o loerennau (lloerennau Astra yw'r rhai mwyaf poblogaidd) yn y gofod.

Yn ogystal mae cwmniau 'cêbl' yn darparu gwasanaethau teledu ochr-yn-ochr a gwasanaethau teleffon mewn ardaloedd poblog (Virgin Media yw'r prif gwmni cebl, er bod rhai cwmniau llai hefyd i'w cael mewn rhai mannau).

Ar hyn o bryd yn y DU mae yna newid technoleg darlledu y gorsafoedd daearol o analog i ddigidol. Mae hwn yn digwydd yn raddol a bwriedir gorffen y gwaith yn 2013. Mae mwy o fanylion ar sawl wefan yn cynnwys safle Digital UK a hon. Mae Cymru yn cael ei heffeithio o ganol 2009 hyd at hydref 2010.

Rhaid cael teledu newydd sy'n derbyn signalau digidol neu brynu blwch arbennig sy'n galluogi i setiau teledu analog dderbyn y signalau digidol.

Rhai o orsafoedd teledu y DU[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am teledu
yn Wiciadur.