Gâl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gâl yn y ganrif gyntaf CC
Y brenin Galaidd Vercingetorix yn ildio i Iŵl Cesar (llun dychmygol)

Gâl (Lladin: Gallia) oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw. Gallia Cisalpina ("Gâl yr ochr yma i'r Alpau") neu Gallia Citerior oedd yr enw am ei diriogaeth yng ngogledd yr Eidal; Gallia Transalpina ("Gallia tu hwnt i'r Alpau") neu Gallia Ulterior oedd yr enw am ei diriogaeth rhwng Afon Rhein, y Pyrenées, yr Alpau, y Môr Canoldir a'r Môr Iwerydd (sy'n cyfateb yn fras i Ffrainc a Gwlad Belg heddiw). Yn y cyfnod modern mae rhai haneswyr yn defnyddio'r enw i gyfeirio at yr Âl orllewinol yn bennaf neu'n unig.

Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y Rhufeiniaid tua'r 3edd ganrif CC/ail ganrif CC. Yn 89 CC a 49 CC cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith Gallia Narbonensis yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn 58-51 CC arweiniodd Iŵl Cesar ei llengoedd i weddill Gâl a'i chwncweru ar ol nifer o frwydrau caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith gan yr ymerodr Augustus yn 27 CC: Gallia Belgica yn y gogledd-ddwyrain, Gallia Aquitania yn y de-orllewin a Gallia Lugdunensis yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum (Lyons) fel coloni yng nghanol y "Tair Gâl" (Tres Galliae) hyn yn 43 CC. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y Concilium Galliarum ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.

Blodeuai diwylliant arbennig yn yr Âl Rufeinig, a gyfunai elfennau Celtaidd a Rhufeinig; fe'i gelwir weithiau'n ddiwylliant Galo-Rufeinig. Yn ystod yr ail ganrif dechreuodd Cristnogaeth gyrraedd Gâl a chafodd hyn yn ei thro effaith sylweddol ar iaith a diwylliant yr ardal. Yn y 3edd ganrif cafwyd nifer o gyrchoedd ar Âl gan lwythau Germanaidd a phan ymadawodd y llengoedd Rhufeinig olaf yn y 5fed ganrif goresgynwyd y wlad i gyd gan y Germaniaid a chafodd ei rhannu rhwng y prif lwythau, sef y Ffranciaid, y Alemanni, y Bwrgwyniaid a'r Visigothiaid.

Gweler hefyd[golygu]