Alemanni

Oddi ar Wicipedia
Alemanni
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol, cydffederasiwn Edit this on Wikidata
Olynwyd ganAlamannia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tiriogaethau yr Alamanni, a safleoedd brwydrau rhwng yr Alamanni a'r Rhufeiniaid, 3ydd i 6ed ganrif

Roedd yr Alemanni, Allemanni neu Alamanni yn wreiddiol yn gynghrair o lwythau Almaenig oedd yn byw o amgylch rhan uchaf Afon Main, yn awr yn yr Almaen. Bu llawer o frwydro rhwng yr Alemanni a'r Ymerodraeth Rufeinig o'r 3g ymlaen; gyda'r Alamanni yn aml yn croesi'r ffin i ymosod ar dalaith Germania Superior. O'r 5g ymlaen, ehangodd eu tiriogaethau, gan symud i mewn i Alsace a chyrraedd dyffrynnoedd yr Alpau erbyn yr 8g. Ffurfiasant wlad Alemannia, oedd ar brydiau yn annibynnol ond yn amlach na pheidio dan reolaeth y Ffranciaid. Collodd Allemania ei hunaniaeth pan ymgorfforodd Siarl Martel y wlad yn yr Ymerodraeth Ffrancaidd yn gynnar yn yr 8g.

Daw'r enw "Yr Almaen" am y wlad o enw'r Alamanni, ac felly hefyd yn Ffrangeg (Allemagne) ac yn Sbaeneg (Alemania).

Alemannia (melyn) a Bwrgwyn Uchaf (gwyrdd) tua 1000.

Rhestr o reolwyr yr Alemanni[golygu | golygu cod]

Brenhinoedd
Dugiaid dan reolaeth y Ffranciaid