Afon Main

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Main yn llifo trwy Würzburg.

Afon yn yr Almaen sy'n llifo i mewn i afon Rhein yw afon Main. Mae'n 524 km (329 milltir) o hyd, and yn llifo trwy daleithiau ffederal Bafaria, Baden-Württemberg a Hessen.

Ceir tarddle'r afon ger Kulmbach, lle mae dwy afon, y Main Goch a'r Main Wen yn cyfarfod. Tardda'r Main Goch yn yr Alb Ffrancaidd, ac mae'n llifo trwy Creussen a Bayreuth, tra mae'r Main Wen yn tarddu ym mynyddoedd y Fichtelgebirge.

Llifa'r afon heibio dinasoedd Würzburg a Frankfurt am Main, cyn ymuno ag afon Rhein gyferbyn a Wiesbaden. Ers 1992, mae'r Main wedi ei chysylltu ag Afon Donaw trwy Gamlas Rhein-Main-Donaw.