Ffranciaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd y Ffranciaid yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y Saliaid, Sicambri, Chamavi, Tencteri, Chattuarii, Bructeri, Usipetes, Ampsivarii a’r Chatti. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol Afon Rhein, a chawsant eu defnyddio fel foederati gan yr ymerawdwr Rhufeinig Julian (358). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia) mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Mae Ffrainc yn cymeryd ei henw oddiwrthynt hwy. Daethant yn Gristionogion tua diwedd y 5ed ganrif.

Arferiad y Ffranciaid ar farwolaeth brenin oedd rhannu’r deyrnas rhwng ei feibion, felly rhannwyd Francia nifer o weithiau.

Cerflun o Siarlymaen yn Frankfurt, Yr Almaen.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am y Ffranciaid yn dod oddi wrth Gregori o Tours, a ysgrifennodd ei Historia Francorum (Hanes y Ffranciaid) am y cyfnod hyd 594. Cofnodir I’r Ffranciaid ymosod ar yr Ymerodraeth Rufeinig yn 250 a chyrraedd cyn belled a Tarragona yn Sbaen. Tua 358 rhoddodd yr ymeradwr Julian y rhan fwyaf o dalaith Gallia Belgica iddynt. Yn raddol daethant yn feistri ar y rhan fwyaf o ran ogleddol Gâl.

Y frenhinllin gyntaf i lywodraethu’r Ffranciaid oedd y Merofingiaid. Dywedir fod y brenhinoedd Merofingaidd yn hannu o lwyth y Sicambri. Fodd bynnag nid y brenin oedd a’r grym mewn gwirionedd ond Maer y Llys. Y mwyaf enwog o’r rhain oedd Siarl Martel, a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Tours.

Yn 751 diorseddwyd yr olaf o’r brenhinoedd Merofingaidd, a daeth mab Siarl Martel, Pepin Fychan, yn frenin fel y cyntaf o linach y Carolingiaid. Adeiladodd mab Pepin, Siarlymaen, ymerodraeth oedd yn ymestyn dros ran helaeth o Ewrop. O 772 ymlaen, gorchfygodd y Sacsoniaid, ymgorfforodd eu tiroedd yn ei ymerodraeth a gorfododd hwynt i ddod yn Gristionogion. Concrodd y Lombardiaid yn 773-774, ac ychwanegodd ogledd yr Eidal at ei feddiannau. Ar ddydd Nadolig 800 coronwyd Siarlymaen yn “Ymerawdwr y Rhufeiniaid” gan y Pab Leo III.

Pan fu farw Siarlymaen yn 814 yn Aachen, dilynwyd ef gan ei fab Louis Dduwiol, yr unig un o'i feibion oedd wedi goroesi ei dad. Ar farwolaeth Louis yn 840, bu ymladd rhwnng ei feibion, ac yn 843 rhannwyd y deyrnas rhyngddynt yn ôl Cytundeb Verdun.

Rhaniad yr ymerodraeth rhwng tri mab Louis Dduwiol